Mae'r Cyngor yn wynebu heriau ariannol sylweddol yn y tymor canolig ac rydyn ni'n ystyried amrywiaeth o ddewisiadau er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r diffyg cyllid.
O ganlyniad i hyn, rydyn ni'n ystyried newid y Polisi Cludo Disgyblion o'r Cartref i'r Ysgol, fel bod ein darpariaeth yn cyd-fynd yn well â gofynion trafnidiaeth statudol Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn i’r Cyngor allu: -
- cynnal fforddiadwyedd o fewn cyfyngiadau ariannol yn y dyfodol;
- parhau i fodloni ei ofynion statudol;
- parhau i ddarparu cludiant dewisol ar gyfer ei ddefnyddwyr mwyaf agored i niwed (hynny yw, disgyblion ag ADY).
Mae'r Cyngor yn cydnabod arwyddocâd y cynnig i ddisgyblion sy'n defnyddio cludiant o'r cartref i'r ysgol ar hyn o bryd, ac a fydd yn ei ddefnyddio yn y dyfodol. Mae'r ymgynghoriad estynedig yn rhoi cyfle pellach i'r rhai a fydd o bosibl yn cael eu heffeithio gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
Mae modd bwrw golwg ar yr adroddiad llawn i'r Cabinet (gan gynnwys yr Asesiadau o'r Effaith ar Gydraddoldeb a'r Gymraeg) yma o dan eitem 71.
Daw’r ymgynghoriad i ben am 5pm ar 8 Chwefror 2024.