Skip to main content

Casglu Data Digwyddiad Llifogydd yn dilyn effeithiau llifogydd Storm Bert ym mis Tachwedd 2024

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf am gasglu a choladu gwybodaeth am y llifogydd a darodd y fwrdeistref sirol rhwng 23 a 24 Tachwedd 2024 oherwydd Storm Bert.

Yn rhan o hyn, mae'r Cyngor yn awyddus i gofnodi adroddiadau am y llifogydd gan y gymuned leol i'n helpu ni i ddeall a dilysu ein hasesiad o'r llifogydd yn well. Bydd y rhain hefyd o fudd gyda'n gwaith o asesu pa fesurau/camau mae modd eu cymryd i leihau effaith achosion o lifogydd yn y dyfodol.

Byddwn ni'n gofyn i drigolion a busnesau lleol gwblhau arolwg, a bydd yr ymatebion yn cael eu casglu a’u defnyddio at yr unig ddiben o baratoi adroddiadau ffeithiol ar y llifogydd a ddigwyddodd, gan gyflawni ein gofynion statudol o dan Adran 19 o Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010 ac i lywio'r gwaith paratoi cynlluniau lliniaru llifogydd posibl yn y dyfodol.

Bydd unrhyw wybodaeth yn cael ei defnyddio at y dibenion y cafodd ei chyflwyno (fel y nodwyd uchod) yn unig. Bydd yr holl ddata personol yn cael ei drin yn unol â Pholisi Diogelu Data Cyngor Rhondda Cynon Taf a Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR). Fydd dim gwybodaeth bersonol yn cael ei chynnwys yn yr adroddiad. Er mwyn cael rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni'n prosesu eich gwybodaeth bersonol, ewch i dudalennau Diogelu Data'r Cyngor

Caeoedd yr ymgynghoriad i ben 28 Ebrill 2025.