Mae adran 5 o Ddeddf Trwyddedu 2003 yn ei gwneud hi'n ofynnol i bob awdurdod trwyddedu gyhoeddi datganiad polisi trwyddedu i amlinellu sut y bydd yr awdurdod yn arfer ei swyddogaethau trwyddedu o dan y Ddeddf mewn perthynas â thrwyddedau ar gyfer gwerthu alcohol, darparu adloniant a darparu lluniaeth hwyr y nos.
Mae'r datganiad polisi trwyddedu presennol wrthi'n cael ei adolygu. Mae'r Datganiad Polisi drafft ynghlwm er mwyn i chi ei ystyried. Mae'r awdurdod yn awyddus i ymgynghori mor eang â phosibl gan fod gwerthu, cyflenwi ac yfed alcohol yn effeithio ar sawl agwedd ar ein bywyd cymunedol. Bydd yr Awdurdod yn ystyried yn ofalus iawn yr holl ymatebion sy'n dod i law.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg o 24 Mehefin 2019 i 2 Awst 2019.
Gweld manylion y Polisi Trwyddedu
Mynnwch gael dweud eich dweud drwy lenwi'r arolwg ar-lein: