O dan Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 mae dyletswydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i baratoi a chyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.
O dan Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 mae dyletswydd ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf i baratoi a chyhoeddi Strategaeth Toiledau Lleol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol.
Rhaid i ni gyhoeddi ein Strategaeth Toiledau Lleol erbyn 31 Mai 2019 a chynnwys cynllun sy'n dangos sut y byddwn ni'n diwallu'r anghenion sydd wedi'u nodi. Dyw hi ddim yn ofynnol i ni ddarparu a chynnal a chadw toiledau cyhoeddus eu hunain, ond mae rhaid i ni gymryd golwg strategol ar sut y gallai'r cyfleusterau yma gael eu darparu ar gyfer y boblogaeth leol, a sut i'w gwneud nhw'n hygyrch.
Cafodd Asesiad o Angen ei gynnal yn ystod yr Hydref 2018, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus. Nododd hyn y ddarpariaeth bresennol, anghenion presennol a'r dyfodol, ac unrhyw fylchau sydd yn y ddarpariaeth. Mae'r adborth a'r canfyddiadau wedi'u cynnwys mewn strategaeth ddrafft sydd bellach yn destun ymgynghoriad.
Rydyn ni'n annog trigolion ac ymwelwyr i ymateb i'r ymgynghoriad yma sy'n trafod y Strategaeth Toiledau Lleol. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn rhedeg o 4 Chwefror 2019 tan 29 Ebrill 2019.
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, ewch i'r wefan i lenwi arolwg.