Skip to main content

Ymgynghoriad Ysgol Gynradd Cyfrwn Cymraeg Newydd

Penderfynodd Cabinet y Cyngor, yn eu cyfarfod ar 19 Chwefror 2025, gymeradwyo'r cynnig i sefydlu Ysgol Gynradd Gymraeg newydd ar gyfer plant 3 i 11 oed fel rhan o Ddatblygiad Tai Llanilid a'r newid arfaethedig mewn cyfrwng iaith Ysgol Gynradd Dolau o Iaith Ddeuol i Gyfrwng Saesneg. Bydd y cynnig yn cael ei weithredu erbyn blwyddyn academaidd 2027 fan bellaf.

Am y rhesymau a amlinellir yn y Ddogfen Ymgynghori, a gylchredwyd yn eang y llynedd, ac yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru 2018 (011/2018), mae Cabinet y Cyngor wedi penderfynu bwrw ymlaen â'r cynnig.

Gellir gweld yr hysbysiad penderfynu yma:

Casgliad Cabinet y Cyngor wrth wneud eu penderfyniad terfynol yw'r manteision y gellir eu cyflawni mewn perthynas â gwell canlyniadau addysgol, darparu amgylcheddau Ysgolion yr 21ain Ganrif ar gyfer disgyblion ysgol yn yr ardal hon, a chreu darpariaethau sy'n gynaliadwy yn ariannol sy'n galluogi CBSRh i weithio tuag at darged strategaeth Cymraeg 2050 WESP a LlC gyda'r nod o gynhyrchu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn rhesymau dilys dros weithredu'r cynigion hyn.