Yn ystod mis Medi a mis Hydref bydd Tasglu’r Cymoedd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus ar y cyd â Thrafnidiaeth Cymru.
Bydd y digwyddiadau hyn – ‘Ein Cymoedd, Ein Cymunedau, Ein Gorsafoedd’ – yn gyfle i bobl sy’n byw yn y cymoedd ddysgu mwy am fabwysiadu rheilffyrdd y cymoedd ac effaith hyn ar gymunedau lleol.
Bydd y digwyddiadau’n cael eu trefnu ar ffurf sesiynau anffurfiol a fydd yn rhoi cyfle i bobl alw heibio fel y bydd yn gyfleus rhwng 16:00 a 19:00 gyda sesiwn Holi ac Ateb o dan gadeiryddiaeth yr Aelod Cynulliad lleol, o 17:30 ymlaen.
Dyma fanylion y digwyddiadau yn y tabl isod gan obeithio y bydd modd i chi ddod:
Redhouse, Merthyr Tudful,
12.09.19, 1600-1900
The Castle Hotel, Castell-nedd,
19.09.19, 1600-1900
Llyfrgell Bargoed, Bargoed,
26.09.19, 1600-1900
Lleoliad i’w gadarnhau, Maesteg/Ton-du,
30.09.2019, 1600-1900
Sefydliad Glyn Ebwy, Glyn Ebwy,
10.10.19, 1600-1900
Coleg y Cymoedd, Aberdâr,
17.10.19, 1600-1900
Clwb Rygbi Pontypridd, Pontypridd,
24.10.19, 1600-1900