Mae Parc Coffa Ynysangharad yn boblogaidd iawn gyda'r gymuned leol a thu hwnt. Ond mae'r hyn mae'n ei gynnig ar fin gwella!
Yn ddiweddar, mae'r Parc wedi ennill cyllid gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a chyn gwneud cais am arian cam 2, hoffai staff wybod pa gyfleoedd, ar ben y rhai sydd ar gael ar hyn o bryd, hoffech chi eu gweld yn y parc.
Bydd eich ymatebion yn helpu i lunio'r rhaglen yn y dyfodol felly bydden ni'n ddiolchgar pe baech chi'n rhoi o'ch amser i lenwi'r holiadur yma.