Skip to main content

Awgrymiadau i Enwi'r Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm yn Aberpennar

Mae'r Cyngor yn chwilio am awgrymiadau gan drigolion, grwpiau cymunedol, ac ysgolion lleol yng nghlwstwr Ysgol Gyfun Aberpennar. Wedi ystyried yr awgrymiadau yma, bydd rhestr fer yn cael ei llunio ac fe fydd yna’n mynd i bleidlais gyhoeddus er mwyn pennu enw Cymraeg neu ddwyieithog i'r Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm. Bydd honno'n cael ei hadeiladu ar hyn o bryd ac yn agor i draffig yn haf 2020.

Mae'r Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm wedi bod yn ddyhead ers nifer o flynyddoedd. I gydnabod ei arwyddocâd felly, o ran bod yn strwythur ar gyfer yr 21ain ganrif yng Nghwm Cynon ac o ran trafnidiaeth, mae'r Cyngor yn awyddus i sicrhau enw addas sydd wedi'i ddatblygu a'i ddewis gan y gymuned.

Mountain-Ash-Cross-Valley-Link-Scheme

Bydd angen ystyried un o'r meini prawf canlynol wrth awgrymu enw. Bydd pob awgrym yn cael ei ystyried gan banel, sy'n cynnwys cynrychiolwyr y Cyngor a haneswyr lleol a fydd yn llunio rhestr fer o dri enw. Yna bydd y tri enw ar y rhestr fer yn mynd i bleidlais trwy holiaduron cyhoeddus, y we a'r cyfryngau cymdeithasol i ddewis yr enw terfynol. Bydd yr enw a fydd wedi'i ddewis yn cael ei gyhoeddi ar ôl cwblhau'r ffordd a'i hagor i draffig. Fe fydd yr ysgol, y grŵp neu'r unigolyn buddugol yn derbyn gwahoddiad i fynychu achlysur agor y ffordd yn swyddogol.

Rhaid derbyn pob awgrym erbyn 6 Ebrill 2020 er mwyn iddyn nhw gael eu hystyried.

Er mwyn i'r enwebiadau gael eu hystyried gan y panel, rhaid iddyn nhw fodloni un o'r meini prawf canlynol:

  • enw sy'n cydnabod neu'n cyfeirio at hanes yr ardal;
  • enw sy'n cydnabod unigolion o arwyddocâd, naill ai'n hanesyddol neu trwy eu cyflawniad personol, gyda llwybrau neu gysylltiadau lleol ag Aberpennar neu Gwm Cynon isaf;
  • enw sy'n cydnabod digwyddiadau o arwyddocâd lleol a hanesyddol; neu,
  • enw sy'n adlewyrchu tirwedd a diwylliant ehangach Aberpennar.

Awgrymwch enw trwy lenwi'r ffurflen isod. Sylwch, ni fydd unrhyw awgrymiadau sy'n cael eu hysgrifennu ar gyfryngau cymdeithasol yn cael eu hystyried.