Bwriwch olwg ar yr ymgynghoriadau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd yn Rhondda Cynon Taf.
Sample Table
Teitl | Pwnc | Dyddiad diwedd |
Coridor Trafnidiaeth Cynaliadwy Llanharan |
Bydd y Cyngor yn cynnal ymarfer ymgysylltu pwysig dros yr wythnosau nesaf. Bydd yn gyfle i drigolion gael dysgu rhagor am y cynigion diwygiedig ar gyfer coridor trafnidiaeth a llwybr teithio llesol newydd i’r de a’r gorllewin o Lanharan, ac i ddweud eu dweud yn eu cylch.
|
27 Hydref 2025 |
Ymgynghoriad ar enw arfaethedig yr ysgol ADY newydd, Cwm Clydach |
Bydd Rhondda Cynon Taf yn agor ysgol ADY 3-19 oed newydd yng Nghwm Clydach. Hoffai'r corff llywodraethu dros dro ymgynghori â rhanddeiliaid mewn perthynas ag enwi'r ysgol newydd. Mae'r llywodraethwyr wedi ymgysylltu â disgyblion a staff o ran enwi'r ysgol newydd ac mae rhestr fer o enwau i'w hystyried wedi cael ei llunio o ganlyniad i'r broses ymgynghori. Mae'r llywodraethwyr yn dymuno casglu barn cymuned ehangach yr ysgol ar yr enwau sydd ar y arolwg.
|
14 Tachwedd 2025 |
Ymgynghoriad ar enw arfaethedig yr ysgol Gynradd newydd, Glyn-coch |
Bydd Rhondda Cynon Taf yn agor ysgol gynradd newydd yn Glyn-coch. Hoffai'r corff llywodraethu dros dro ymgynghori â rhanddeiliaid mewn perthynas ag enwi'r ysgol newydd. Mae'r llywodraethwyr wedi ymgysylltu â disgyblion a staff o ran enwi'r ysgol newydd ac mae rhestr fer o enwau i'w hystyried wedi cael ei llunio o ganlyniad i'r broses ymgynghori. Mae'r llywodraethwyr yn dymuno casglu barn cymuned ehangach yr ysgol ar yr enwau sydd ar y arolwg.
|
14 Tachwedd 2025 |
Cynnig i gau'r chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Aberpennar gyda disgyblion yn trosglwyddo i Ysgol Gymunedol Aberdâr. |
Ymgynghoriad ar gynnig i gau'r chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Aberpennar a diwygio'r dalgylch ar gyfer darpariaeth ôl-16 i osod Ysgol Gyfun Aberpennar yn nalgylch Ysgol Gymunedol Aberdâr.
|
|
Dewch i Siarad RCT
Dewch i Siarad RhCT yw ein llwyfan newydd sy'n ein galluogi i ymgysylltu â chi mewn gwahanol ffyrdd.
I gael gwybodaeth a gweld y projectau diweddaraf
Er mwyn sicrhau bod modd i chi ddefnyddio pob un o'r adnoddau sydd ar gael ar y wefan, defnyddiwch Microsoft Edge, Chrome, Firefox neu Safari.
Cysylltu â ni
Hoffech chi fod yn rhan o’r broses ymgynghori? Hoffech chi gael dweud eich dweud ar y materion allweddol? Cysylltwch â'r Garfan Ymgynghori: