Skip to main content

Adroddiad Cynnydd Ansawdd Aer 2025

O ganlyniad i bwysigrwydd llygryddion aer penodol, mae Rheoliadau wedi pennu Amcanion Ansawdd Aer y dylai'r Cyngor fod yn effro iddyn nhw a gweithio tuag at eu cyflawni, lle bo modd. Felly, mae ansawdd aer wedi cael ei fonitro yn Rhondda Cynon Taf ers y 1990au ac mae'r Cyngor yn cyhoeddi adroddiad ar ansawdd aer lleol bob blwyddyn. Mae'r adroddiadau yma'n rhoi gwybodaeth am y broses statudol, data monitro lleol diweddar a dadansoddiad o'r ansawdd aer lleol. Yn ddiweddar, mae'r Cyngor wedi cyhoeddi Adroddiad Cynnydd 2025

Mae'r Cyngor wedi cychwyn ymgynghoriad cyhoeddus ynglŷn â dadansoddi Adroddiad Cynnydd 2025 a’i argymhellion. Os ydych chi eisiau rhoi sylwadau ar yr adroddiad yma, anfonwch nhw ar bapur neu drwy e-bost i'r cyfeiriadau isod: -

Cysylltwch â ni

Ansawdd Aer

Materion Llygredd ac Iechyd y Cyhoedd
Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
Tŷ Elái
Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

Rhif Ffôn: 01443 425001 – rhwng 9am & 5pm, dydd Llun – dydd Gwener.

Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dod i ben ar 1 Rhagfyr 2025. Fydd sylwadau sy'n cyrraedd ar ôl y dyddiad yma ddim yn cael eu hystyried gan y Cyngor wrth drafod Adroddiad Cynnydd 2025 a'i argymhellion. Mae modd i'r holl sylwadau ddod yn fater o gofnod cyhoeddus ac, oni nodir yn wahanol, mae modd cyhoeddi enw a dynodiad y person sy'n gwneud y sylwadau, ynghyd â'r sylwadau