Skip to main content

Ymgynghori ar Gyllideb 2021/22 – Cam 2

Cafodd Cam 1 Ymgynghoriad ar y Gyllideb ei gynnal rhwng 26 Hydref a 7 Rhagfyr 2020 a chafodd y canlyniadau eu hystyried yn rhan o'r broses o ddatblygu drafft o Strategaeth Gyllideb 2021/22

Mae’r adroddiad llawn sy’n trafod Strategaeth y Gyllideb ddrafft ar gyfer 2021/22 i’w weld yma:  

Mae Cam 2 yr ymgynghoriad yn cychwyn ar 29 Ionawr ac yn para hyd at 12 Chwefror 2021. 

Hoffen ni gael eich barn chi ar y canlynol:

  • Lefel Treth y Cyngor arfaethedig o 2.65% y flwyddyn nesaf;
  • Effeithlonrwydd
  • Cynigion ar gyfer Ffioedd a Thaliadau
  • Cynigion ar gyfer y Strategaeth Gyllideb
  • Nifer o Fuddsoddiadau Arfaethedig
  • Defnydd o gronfeydd wrth gefn

Mae sawl ffordd i chi gael dweud eich dweud;

Ar-lein:

Llenwch yr holiadur ar-lein

Fersiwn Hawdd ei darllen - PDF

Cysylltwch â ni os ydych chi eisiau copi papur o'r arolwg hawdd ei ddarllen.

E-bost - ymgynghori@rctcbc.gov.uk

Cyfarfod Ymgysylltu Rhithwir (dros Zoom)

Dyddiad

Lleoliad

Amser

11/2/21

Ar-lein (dros Zoom)

12:00pm

Os ydych chi eisiau cymryd rhan, anfonwch e-bost – ymgynghori@rctcbc.gov.uk

Mae modd i chi hefyd...

Ysgrifennu aton ni:

Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS

Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX

Ffonio:

Os oes yn well gyda chi rannu'ch barn drwy siarad â rhywun, neu os oes angen copïau papur o'r wybodaeth arnoch chi,
Ffoniwch – 01443 425014

Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn Gymraeg. Fydd hyn ddim yn arwain at unrhyw oedi.

Mae croeso i chi ddefnyddio'r Gymraeg yn unrhyw un o'r achlysuron ymgysylltu (rhithwir), ond rhaid i chi roi gwybod i ni ymlaen llaw er mwyn i ni drefnu gwasanaeth yn y Gymraeg ar eich cyfer.