Skip to main content

Ymgynghoriad ar y Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned (PRYD-AR-GLUD)

Mae'r Cyngor yn wynebu heriau ariannol sylweddol yn y tymor canolig ac rydyn ni'n ystyried ailfodelu meysydd gwasanaeth allweddol er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r diffyg cyllid. Oherwydd hyn, rydyn ni'n cynnig cyflwyno newidiadau i wasanaethau megis y Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned (Pryd-ar-glud).

Rydyn ni wedi cynnal adolygiad o’r gwasanaeth ac mae nifer o opsiynau ar gyfer dyfodol y gwasanaeth wedi’u gwerthuso isod:

Opsiwn 1: parhau â'r gwasanaeth fel y mae ar hyn o bryd, ond gyda chostau uwch i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Bydd hyn yn lleihau'r cymhorthdal fesul pryd.

Byddai'r opsiwn yma'n parhau i ddarparu'r Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned fel y mae ar hyn o bryd, gyda phryd o fwyd wedi'i goginio'n ffres. Serch hynny, byddai cynnydd o naill ai 50c, £1 neu £1.50 fesul pryd i ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Opsiwn 2: ad-drefnu'r gwasanaeth mewnol cyfredol, gan gynyddu'r costau i ddefnyddwyr y gwasanaeth a lleihau'r cymhorthdal fesul pryd.

Byddai'r opsiwn yma'n gofyn am ad-drefnu'r Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned cyfredol, sy'n darparu pryd o fwyd wedi'i goginio'n ffres, a byddai cynnydd arfaethedig o naill ai 50c, £1 neu £1.50 fesul pryd i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Byddai modd darparu’r gwasanaeth yma gyda llai o staff. 

Opsiwn 3: Ad-drefnu'r gwasanaeth mewnol cyfredol, a darparu Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned sy'n cludo pryd o fwyd twym/wedi'i rewi i gartrefi defnyddwyr y gwasanaeth. Byddai'r opsiwn yma'n cynyddu'r costau i ddefnyddwyr y gwasanaeth a lleihau'r cymhorthdal fesul pryd.

Byddai'r opsiwn yma'n gofyn am ad-drefnu'r Gwasanaeth Prydau yn y Gymuned cyfredol er mwyn rhoi dewis o bryd twym neu bryd wedi'i rewi i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Bydd hyn yn galluogi'r Cyngor i barhau i ddarparu gwasanaeth prydau twym a chynnal y cyswllt pwysig hwnnw â defnyddwyr y gwasanaeth. Yn ogystal â hynny, bydd darparu prydau wedi'u rhewi yn rhoi cyfle i ddefnyddwyr gwasanaeth ddewis pa adeg o'r dydd yr hoffen nhw fwyta'u pryd. Bydd modd iddyn nhw gynhesu'r bwyd pan maen nhw'n barod, yn hytrach na chael eu cyfyngu gan amser dosbarthu'r bwyd. Byddai rhan o'r opsiwn yma hefyd yn gofyn am gynnydd arfaethedig o 50c fesul pryd i ddefnyddwyr y gwasanaeth, a fyddai'n codi pris y pryd o £4.05 i £4.55. Byddai modd darparu’r gwasanaeth yma gyda llai o staff. 

Opsiwn 4: Rhoi’r gorau i gynnig y gwasanaeth presennol a helpu defnyddwyr y  gwasanaeth i ddod o hyd i opsiynau eraill.

Byddai'r opsiwn yma'n rhoi terfyn ar y gwasanaeth yn gyfan gwbl, a byddai'r Cyngor yn helpu defnyddwyr y gwasanaeth i ddod o hyd i opsiynau eraill.

Daw’r ymgynghoriad i ben ar 9 Ionawr 2023. Gweld dolen i'r arolwg

E-bost 

Anfonwch e-bost aton ni - ymgynghori@rctcbc.gov.uk

Mae modd i chi hefyd...

Ysgrifennu aton ni:

Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS

Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth

Y Pafiliynau

Parc Hen Lofa'r Cambrian

Cwm Clydach

Tonypandy

CF40 2XX

Pe byddai'n well gyda chi rannu'ch barn drwy siarad â rhywun,

Ffoniwch: 01443 425014 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener

 Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn Gymraeg. Fydd hyn ddim yn arwain at unrhyw oedi.