Mae'r Cyngor yn awyddus i annog pawb i siarad am goed, dyma pam rydyn ni'n ceisio'ch barn chi ar Strategaeth Ddrafft Coed a Choetiroedd y Cyngor ar gyfer 2022/32. Ein nod yw mynd ati i warchod ein coed a’n coetiroedd hardd.
Ym mis Tachwedd 2019 sefydlodd Cyngor Bwrdeistref Rhondda Cynon Taf grŵp llywio'r cabinet ar faterion newid yn yr hinsawdd i fynd i’r afael â’r argyfwng o ran yr hinsawdd ac yna’r argyfwng natur a gafodd ei ddatgan gan Lywodraeth Cymru. Ym mis Tachwedd 2020, derbyniodd y grŵp llywio adroddiad ar 'Asedau Natur' a oedd yn nodi blaenoriaethau'r Cyngor o ran yr amgylchedd naturiol mewn perthynas â mynd i'r afael â'r argyfyngau uchod.
A ninnau'n Gyngor, rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yn ein mannau gwyrdd a storio carbon drwy ddefnyddio dulliau naturiol, megis y rheiny sy'n ymwneud â choed, mawnogydd, glaswelltir corsiog a chynefinoedd naturiol eraill ledled y Fwrdeistref Sirol i wella ansawdd aer a lleihau effaith nwyon tŷ gwydr.
Mae'r strategaeth yma'n canolbwyntio ar warchod coed a choetiroedd Rhondda Cynon Taf, sef isadeiledd gwyrdd parciau, gerddi, coedwigoedd, coed ar strydoedd, llwybrau troed, mannau gwyrdd, coed a gwrychoedd sydd oll mor bwysig i’n hamgylchedd. Mae'r strategaeth yn ymwneud â'r deng mlynedd nesaf yn benodol, ond gyda golwg ar y tymor hirach o 50 mlynedd ac wedi hynny. Bydd y strategaeth yn destun ymgynghoriad cyhoeddus am wyth wythnos.
Yn y bôn, mae Rhondda Cynon Taf yn rhoi materion newid yn yr hinsawdd wrth wraidd yr hyn rydyn ni'n ei wneud.
Yr ymgynghoriad yma yn cau ar 27 Hydref 2022.
E-bost:
E-bost: consultation@rctcbc.gov.uk
Mae modd i chi hefyd...
Ysgrifennu aton ni:
Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS
Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX
Ffôn:
01443 425014 rhwng 9am a 5pm Dydd Llun i Ddydd Gwener