A ninnau’n Gyfarwyddiaeth Addysg, ein pwrpas craidd yw sicrhau bod gan bob disgybl yn Rhondda Cynon Taf fynediad i ysgolion rhagorol a phrofiadau addysgol cadarnhaol a chyfoethog, sy'n eu galluogi nhw i gyflawni'r deilliannau gorau posibl yn unol â'u gallu.
Mae ein gweledigaeth yn canolbwyntio ar: 'Cydweithio'n effeithiol i sicrhau rhagoriaeth, tegwch a chynhwysiant i bawb'
Mae'r Cynllun Strategol Addysg drafft ar gyfer 2026-2030 yn nodi'r cyfeiriad ar gyfer y Gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant am y 4 blynedd nesaf, gan amlinellu cenhadaeth, gweledigaeth ac uchelgais y Gyfarwyddiaeth Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant ar gyfer ein hysgolion yn Rhondda Cynon Taf.
Hoffen ni ichi fwrw'ch sylwadau chithau ar ein cynllun, ac mae modd gwneud hynny mewn sawl ffordd.
Mae modd i chi fwrw golwg ar y Strategaeth yma
Mae modd i chi gwblhau’r holiadur ar-lein
Mae'r ymgynghoriad ar agor o 28 Tachwedd 2025 i 23 Ionawr 2026.
Cysylltu â ni
Y Garfan Ymgynghori
2 Llys Cadwyn
Stryd y Taf
Pontypridd
CF37 4TH
Rhif ffôn: 01443 425014 – rhwng 9am & 5pm, dydd Llun – dydd Gwener.