Mae'r Eisteddfod yn cael ei chynnal ym Mhontypridd yn ystod yr haf eleni rhwng dydd Sadwrn 3 Awst a dydd Sadwrn 10 Awst 2024.
Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda threfnwyr yr Eisteddfod ac eraill i helpu i sicrhau bod yr achlysur yn un o'r rhai gorau erioed. Bydden ni'n gwerthfawrogi'ch cymorth chi wrth i ni lunio'n cynlluniau terfynol.
Mae'n hanfodol i ni fod y dref a'r ardal o'i chwmpas yn parhau i redeg yn ddi-dor o ran trafnidiaeth yn ystod yr achlysur. Er mwyn ein helpu ni gyda chamau olaf ein gwaith paratoi, bydden ni'n ddiolchgar pe byddai modd i chi dreulio 5 munud yn cwblhau arolwg er mwyn i ni ddeall sut y bydd y gymuned leol yn teithio yn ystod cyfnod yr achlysur, boed hynny wrth fynd i'r Eisteddfod neu deithio o gwmpas yr ardal yn ôl yr arfer.
Mae dwy elfen i'r arolwg. Mae un elfen i drigolion, ymwelwyr a phobl eraill sy'n teithio yn yr ardal ac mae'r llall i berchnogion neu weithredwyr busnesau yn yr ardal.
Os byddwch chi'n cwblhau'r arolwg, bydd gyda chi gyfle i ennill tocyn teulu i'r Eisteddfod (Mae tocyn teulu ar gyfer 2 oedolyn a 2 blentyn hyd at 15 oed. Mae hawl i bob plentyn dan 6 fynychu'r Eisteddfod am ddim).
Dyddiad cau'r arolwg yw dydd Mercher 22 Mai 2024.
Bydd modd i ni helpu i sicrhau achlysur gwych i bawb gyda'ch cymorth chi!
Ysgrifennu aton ni:
Rhadbost RUGK-EZZL-ELBH
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Trydydd Llawr
2 Llys Cadwyn
PONTYPRIDD
CF37 4TH
Ffonio:
Pe byddai'n well gyda chi rannu'ch barn drwy siarad â rhywun,
ffoniwch – 01443 425014 rhwng 9am a 5pm Dydd Llun i Ddydd Gwener
.