Skip to main content

Ymgynghoriad Strategaeth Cartrefi Gwag 2026 – 2031

O ganlyniad i'r penderfyniad allweddol a gafodd ei wneud ar 30 Mehefin 2026, mae'r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad 6 wythnos ar ei Strategaeth Cartrefi Gwag newydd, Adfer Cartrefi Gwag; Bywydau Llewyrchus, ar gyfer 2026-2031. Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddydd Llun 6 Gorffennaf 2026 ac yn dod i ben ddydd Sul 16 Awst 2026.

Mae'r Strategaeth ddrafft yn nodi sut, dros y 5 mlynedd nesaf, y bydd y Cyngor yn gweithio gyda landlordiaid, trigolion a rhanddeiliaid eraill i lywio a hwyluso'r broses o ddefnyddio cartrefi gwag eto. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i barhau i fynd i'r afael â chartrefi gwag ledled RhCT a chynyddu nifer y tai sy'n cael eu defnyddio eto.

Mae eiddo gwag y sector preifat i bob pwrpas yn adnodd diffrwyth, yn gost ariannol i'r perchnogion a'r Cyngor, ac mewn sawl achos, yn gyfle a gollwyd i ddarparu tai fforddiadwy mawr eu hangen. Nid yn unig maen nhw'n wastraff ar adnodd gwerthfawr, gallan nhw hefyd ddifrodi golwg cymunedau ac achosi trallod i drigolion oherwydd hynny. Yn ogystal â hynny, gallan nhw ddenu trosedd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Caiff y Strategaeth ei chefnogi gan y pedwar amcan a ganlyn a fydd yn llywio ei chyflawniad:

  1. Gwella partneriaethau â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig a'r sector preifat a fydd yn helpu i ddefnyddio cartrefi gwag eto.
  2. Rhoi cyngor, cymorth a chefnogaeth ariannol i berchnogion eiddo gwag er mwyn cynyddu nifer y cartrefi gwag sy'n cael eu defnyddio eto.
  3. Cyflwyno pwerau gorfodi cymesur ac effeithiol er mwyn gallu defnyddio cartrefi gwag eto.
  4. Cefnogi adfywio a llesiant cymunedol drwy ddarparu ymyraethau wedi'u targedu mewn perthynas â chartrefi gwag ar gyfer y farchnad dai mewn gwahanol ardaloedd a gwella deilliannau cymunedol.

Mae'r ymgynghoriad yn rhoi cyfle i drigolion wneud sylwadau a chyfrannu at ddrafft terfynol y Strategaeth.

Mae’r ddogfen ymgynghori i’w gweld ar y dudalen yma.

Os hoffech chi gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, mae modd gwneud hyn mewn nifer o ffyrdd:

Ar-lein

Cwblhewch yr holiadur ar-lein

Cysylltwch â ni

Rhadpost RUGK-EZZL-ELBH

Y Garfan Ymgynghori
2 Llys Cadwyn
Taf Street
Pontypridd
CF37 4TH

Rhif ffôn: 01443 425014 – rhwng 9am & 5pm, dydd Llun – dydd Gwener.