Skip to main content

Ymgynghoriad ar iddo gwag ac ail gartrefi

Mae gan y Cynor bwerau dewisol o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i godi cyfraddau Treth y Cynor uwch (premiwn) ar fathau penodol o eiddo. 

Mae bwriad i'r disgresiwn codi premiwm sydd wedi'i roi i Gynghorau gael ei ddefnyddio yn

rhan o strategaeth ehangach er mwyn helpu Cynghorau:

a) I wella cartrefi sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir fel eu bod nhw'n addas i'w defnyddio eto er mwyn darparu cartrefi diogel, sefydlog a fforddiadwy; a

b) Cefnogi Cynghorau i gynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael a gwella cynaliadwyedd cymunedau lleol.   

Dyma'r hyn mae'r Cyngor yn ei gynnig:

  • Cyflwyno premiwm treth y Cyngor o 50% ar eiddo gwag hirdymor sydd wedi bod yn wag rhwng 1 a 2 flynedd.  Byddai lefel y premiwm yn cynyddu i 100% ar gyfer yr eiddo hynny sydd wedi bod yn wag yn hwy na 2 flynedd.
  • Codi premiwm ar ail gartrefi, sef 100% ar gyfer pob eiddo sydd wedi'u nodi'n ail gartref o dan Ddosbarth B Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthau Rhagnodedig ar Anheddau) (Cymru) 1998.

Mae yna eithriadau. Does dim hawl codi premiwm ar annedd sy'n dod o dan un o'r saith o Ddosbarthau Annedd sydd wedi'u rhestru isod;

Dosbarth

Diffiniad

Yn berthnasol i

Dosbarth 1

Anheddau sy'n cael eu marchnata i'w gwerthu - terfyn amser am flwyddyn

 

Ail gartrefi ac eiddo gwag tymor hir

 

Dosbarth 2

Anheddau sy'n cael eu marchnata i'w rhoi ar osod - terfyn amser am flwyddyn

Dosbarth 3

Rhandai sy'n ffurfio rhan, neu'n cael eu trin fel rhan, o'r brif annedd

Dosbarth 4

Anheddau a fyddai'n unig gartref neu'n brif gartref person pe na bai ef/hi yn byw mewn llety sy'n cael ei ddarparu gan y lluoedd arfog

Dosbarth 5

Safleoedd carafanau ac angorfeydd cychod sydd wedi eu meddiannu

Ail gartrefi

 

Dosbarth 6

Cartrefi tymhorol lle mae gwaharddiad i breswyliad gydol y flwyddyn

Dosbarth 7

Eiddo sy'n gysylltiedig â swyddi


Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 21 Tachwedd 2022.

Bydd angen tua 5-10 funud arnoch chi i gwblhau'r arolwg yma.

E-bost:

E-bost: consultation@rctcbc.gov.uk 

Mae modd i chi hefyd...

Ysgrifennu aton ni: 

Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX

Ffôn: 01443 425014 rhwng 9am a 5pm Dydd Llun i  Ddydd Gwener