Skip to main content

DWEUD EICH DWEUD! NEWIDIADAU ARFAETHEDIG I LWYBR BEICIO TAITH TAF TRWY DRALLWNG

Mae'r Cyngor yn cynnig newid Llwybr Beicio’r rhan o’r Taith Taf sy'n mynd trwy ardal Trallwng, ger Pontypridd.  Mae dau lwybr amgen posibl wedi'u nodi ac hoffen ni glywed eich barn chi am y llwybrau amgen yma. Cliciwch yma i weld:

Y Cynlluniau sy'n dangos Opsiwn 1 ac Opsiwn 2

Gwybodaeth gefndirol am Opsiwn 1 ac Opsiwn 2

Holiadur i gyflwyno'ch adborth chi i'r Cyngor

Bydd angen 5-10 munud arnoch chi i gwblhau'r arolwg yma.

Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 7 Ebrill 2023.

E-bost

E-bost: adfywio@rctcbc.gov.uk

Mae modd i chi hefyd...

Ysgrifennu aton ni –

Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS
Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX

Ffonio:

Pe byddai'n well gyda chi rannu'ch barn drwy siarad â rhywun,

ffoniwch – 01443 425014 rhwng 9am a 5pm Dydd Llun i  Ddydd Gwener

Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn Gymraeg. Fydd hyn ddim yn arwain at unrhyw oedi.