Skip to main content

Ymgynghoriad Is-ddeddfau Draenio Tir

Mae'r ymgynghoriad yma'n gyfle i'r cyhoedd gymryd rhan a dweud eu dweud ar gynlluniau i orfodi Is-ddeddfau Draenio Tir yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT/y Cyngor). Yn rhan o'r broses ymgynghori, rydyn ni'n croesawu sylwadau gan ein partneriaid risg, gweithwyr CBSRhCT ac aelodau'r cyhoedd, ac awdurdodau cyfagos. Dyma'ch cyfle chi i ddylanwadu ar sut mae CBSRhCT yn rheoli'r perygl o lifogydd o gyrsiau dŵr cyffredin.
Bydd yr ymgynghoriad yma'n para 6 wythnos rhwng 21 Tachwedd 2022 a 2 Ionawr 2023

CEFNDIR

O dan Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, cafodd pwerau a chyfrifoldebau ychwanegol eu rhoi i awdurdodau lleol yng Nghymru i reoli llifogydd o ffynonellau lleol, gan gynnwys dŵr wyneb, dŵr daear a chyrsiau dŵr cyffredin. Yn rhan o'r pwerau newydd yma, cafodd y cyfrifoldeb am roi caniatâd cwrs dŵr cyffredin o dan Adran 23 o Ddeddf Draenio Tir 1991 ei drosglwyddo o Gyfoeth Naturiol Cymru (CNC) i Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol ym mis Ebrill 2012.

Ers cymryd drosodd y ddyletswydd ganiatáu yma a swyddogaeth ehangach i reoli perygl llifogydd, mae ymarferwyr wedi nodi bod pwerau o dan y ddeddfwriaeth bresennol yn gyfyngedig ac mae'n bosibl bod rhai gweithgareddau sydd ddim angen caniatâd ar hyn o bryd yn cynyddu'r perygl o lifogydd, yn enwedig mewn ardaloedd mwy adeiledig.

Er mwyn mynd i'r afael â'r mater uchod, cymeradwyodd Llywodraeth Cymru set o Is-ddeddfau Draenio Tir wedi'u diweddaru i helpu awdurdodau lleol yng Nghymru i reoli swyddogaethau draenio tir a rheoli perygl llifogydd yn well trwy reoleiddio gwell.

Trwy fabwysiadu set safonol o is-ddeddfau draenio tir, bydd modd sicrhau cysondeb ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru.

Ein hawgrym ni yw mabwysiadu'r set safonol o Is-ddeddfau Draenio Tir sydd wedi'u cymeradwyo gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig yn Llywodraeth Cymru. Dyw rhai is-ddeddfau ddim yn berthnasol i'r Cyngor, megis y rhai sy'n ymwneud ag amddiffynfeydd/allanfeydd llanw; fodd bynnag, mae angen eu mabwysiadu nhw yn rhan o'r set o is-ddeddfau safonol. Maen nhw wedi'u hepgor ar gyfer yr ymgynghoriad yma.

Mae'r ddogfen ymgynghoriad yn rhestru'r is-ddeddfau rydyn ni'n bwriadu eu gweithredu'n unigol, ynghyd ag esboniad o'r is-ddeddf yn y blychau coch.

Mae'r set safonol o Is-ddeddfau Draenio Tir wedi'i chynnwys yn Atodiad A.

Am ragor o wybodaeth, ewich i wefan Llinuaru Llifogydd. 

E-bost

E-bost: adfywio@rctcbc.gov.uk

Mae modd i chi hefyd...

Ysgrifennu aton ni –

Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS
Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX

Ffonio:

Pe byddai'n well gyda chi rannu'ch barn drwy siarad â rhywun,

ffoniwch – 01443 425014 rhwng 9am a 5pm Dydd Llun i  Ddydd Gwener

Mae croeso i chi gyfathrebu â ni yn Gymraeg. Fydd hyn ddim yn arwain at unrhyw oedi.