Ym mis
Mai 2023, cytunodd Cyngor Rhondda Cynon Taf i wella eu Gwasanaethau Anableddau Dysgu Oriau Dydd mewn ymateb i Ymgysylltiad Fy Niwrnod i, Fy Newis i.
Mae'r Cyngor wedi cynnig model gweithredu newydd wedi'i gydgynhyrchu ar gyfer y Gwasanaethau Oriau Dydd. Bydd gyda'r model newydd tair lefel o gymorth, yn seiliedig ar anghenion unigolion:
• Cymuned a Chyflogaeth
• Gwneud y Mwyaf o Gysylltiadau yn y Gymuned
• Cynnig y Cyngor
Drwy ganolbwyntio ar ddewis personol a lles yr unigolyn, bydd y model yma yn helpu pobl i deimlo'n annibynnol tra'u bod nhw'n cael eu cefnogi yn eu cymunedau lleol.
Dywedwch wrthym beth yw eich barn am ein cynigion.
Y dyddiad cau ar gyfer ymgynghoriad yw dydd Gwener 30 Mehefin 2023.
E-bostiwch ni
RhaglenDrawsnewidAnableddauDysgu@rctcbc.gov.uk
Ysgrifennwch aton ni:
Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS
Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX
Ffôn:
01443 425014 rhwng 9am a 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener.