Mae Cam 4 o Gynllun Adfer yn dilyn Tirlithriad Tylorstown yn cynnwys y cynnig i wneud ochr y bryn a Thomen Uchaf Llanwynno yn ddiogel.
Byddai’r prosiect arfaethedig yn cynnwys symud y rhan fwyaf o ddeunydd y domen i'r darn o dir y tu ôl i Old Smokey, er mwyn ei gywasgu a'i dirlunio, ailraddio'r deunydd sy'n weddill ar ochr y bryn a gosod system ddraenio i reoli llif y dŵr.
Bydd y gwaith yma'n golygu bod ochr y bryn yn ddiogel a bydd rheoli a monitro llystyfiant yn ofalus ar y Safle Derbynnydd a safle'r domen sy'n weddill yn hybu'r ddealltwriaeth ymarferol o'r heriau a'r mesurau arfer gorau sy'n gysylltiedig ag ailsefydlu llystyfiant ar ddeunydd pwll glo wedi'i sefydlogi ac yn darparu astudiaeth achos amserol o sut i reoli a hyrwyddo cynefinoedd y Cymoedd yn well yn y dyfodol, er budd ehangach sefyllfaoedd tebyg ar draws y wlad.
Mae modd i drigolion gymryd rhan yn yr ymarfer ymgysylltu o ddydd Mercher 5 Ionawr 2022 tan ddydd Mercher 16 Chwefror 2022. Proses Ymgynghori Cyn Ymgeisio bydd hyn, felly bydd modd ystyried adborth i helpu i lunio'r cais cynllunio terfynol, i'w ystyried yn ffurfiol.
Mae modd gweld y fersiynau diweddaraf o'r cynlluniau ar gyfer y cynllun, ynghyd â deunydd ategol arall gan ddefnyddio'r dolenni isod:
Rhannwch eich barn:
Bydd modd i drigolion ddweud eu dweud yn rhan o:
Holiadur ar-lein:
Gadewch inni wybod eich barn am y cynnig ar gyfer cam 4 Tirlithriad Tylorstown:
E-bost:
E-bost: ymgynghori@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Rhif ffôn:
Ffoniwch: 01443 425014
Trwy lythyr
Ysgrifennwch at y Cyngor:
Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS
Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX
Ymgynghori â’r garfan:
Cofiwch ddefnyddio'r manylion cyswllt uchod os hoffech chi wahoddiad i achlysur ar-lein (gan ddefnyddio Zoom) a gynhelir gan swyddogion y prosiect i gyflwyno'r cynllun a'r ymgynghoriad. Bydd y cyfarfod yn digwydd am 11.30am a 7.00pm ar 17 Ionawr -Yr amser cau ar gyfer gwneud cais i fynd i'r cyfarfodydd Zoom yma yw hanner nos ddydd Sul 16 Ionawr 2022. Bydd cyfarfod arall am 6.00pm ddydd Mercher 26 Ionawr 2022 a bydd rhaid gwneud cais i fynd i'r cyfarfod Zoom yma cyn hanner nos ddydd Mawrth 25 Ionawr 2022.
Bwriwch olwg ar Fyrddau Arddangos Tirlithriad Tylorstown sy’n nodi gwybodaeth am yr ymgynghoriad yma