Mae'r Cyngor yn gofyn am farn y cyhoedd ar wella'r seilwaith yn y brif orsaf fysiau ym Mhontypridd – bydd eich mewnbwn yn bwysig er mwyn llywio'r cynlluniau!
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid o'i Grant Trafnidiaeth Rhanbarthol i gynnal gwaith ymchwilio a dylunio ar gyfer y cynllun yn y dyfodol. Er mwyn helpu i lywio dyluniad y cynllun, mae'r Cyngor yn cynnal ymgynghoriad lleol, sy'n cynnwys arolwg i ddefnyddwyr yr orsaf fysiau ei gwblhau.
Mae'r arolwg ar gael ar-lein – fel arall, ewch i siarad â staff yn yr orsaf fysiau dros yr wythnosau nesaf. Bydd staff yn yr orsaf fysiau bob hyn a hyn i helpu defnyddwyr bysiau i gwblhau arolwg wyneb yn wyneb.
Hefyd, bydd copïau papur ar gael mewn lleoliadau lleol, gan gynnwys Llyfrgell Pontypridd yn Llys Cadwyn. Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn cael ei hysbysebu ar bosteri yn yr orsaf fysiau, gyda chod QR i'w sganio i gwblhau'r arolwg.
Mae'r ymgynghoriad yn dechrau ddydd Mawrth 23 Mehefin ac yn dod i ben ddydd Llun 20 Gorffennaf.
Rydyn ni'n croesawu'r holl adborth, a bydd yn cael ei ystyried i lywio'r gwaith dylunio ar gyfer gwelliannau i Orsaf Fysiau Pontypridd yn y dyfodol. Nodwch nad oes modd defnyddio sylwadau sydd wedi'u nodi ar y cyfryngau cymdeithasol yn rhan o'r ymgynghoriad – bydd angen i chi gwblhau'r arolwg i ddweud eich dweud yn ffurfiol.
Bydd cyflawni'r cynllun gwella yn y dyfodol yn amodol ar gais arall am grant. Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr bysiau am gymryd rhan.
Cysylltwch â ni
Rhadpost RUGK-EZZL-ELBH
Y Garfan Ymgynghori
2 Llys Cadwyn
Taf Street
Pontypridd
CF37 4TH
Rhif ffôn: 01443 425014 – rhwng 9am & 5pm, dydd Llun – dydd Gwener.