Ymgynghoriad ar gynnig i sefydlu Ysgol Gynradd Gymraeg newydd ar gyfer plant 3 i 11 oed fel rhan o Ddatblygiad Tai Llanilid a'r newid arfaethedig mewn cyfrwng iaith Ysgol Gynradd Dolau o Iaith Ddeuol i Gyfrwng Saesneg.
Cytunodd Cabinet y Cyngor, yn eu Cytunodd Cabinet y Cyngor, yn eu cyfarfod ar 17 Gorffennaf 2024, i ddechrau'r ymgynghoriad trefniadaeth statudol perthnasol a gofynnol i drefnu ysgolion i sefydlu ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd ar gyfer plant 3 i 11 oed fel rhan o ddatblygiad tai Llanilid a'r newid arfaethedig mewn cyfrwng iaith Ysgol Gynradd Dolau o iaith ddeuol i gyfrwng Saesneg.
Cynigir y bydd gan yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd gapasiti ar gyfer 480 o ddisgyblion oedran statudol (dosbarth derbyn i flwyddyn chwech) ynghyd â 60 ar gyfer disgyblion oed meithrin, gydag Ysgol Gynradd Dolau yn dod yn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ar yr un pryd, gyda chynhwysedd uwch o 488 a 63 o leoedd meithrin.
Cynigir y bydd yr ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg newydd yn agor dim hwyrach na blwyddyn academaidd 2027, gydag Ysgol Gynradd Dolau yn dod yn ysgol gynradd cyfrwng Saesneg ar yr un pryd.
Yn eu cyfarfod ar 20 Tachwedd 2024, cytunodd Cabinet y Cyngor i gyhoeddi'r Adroddiad Ymgynghori mewn perthynas â'r cynnig uchod.
Gellir gweld yr Adroddiad Ymgynghori ar ddefnyddio'r ddolen ganlynol:
Cysylltwch â ni
Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant
Ysgolion yr 21ain Ganrif
Canolfan Menter y Cymoedd
Parc Hen Lofa'r Navigation
Abercynon
CF45 4SN
Rhif ffôn: 01443 425014 – rhwng 9am & 5pm, dydd Llun – dydd Gwener.
Mae copïau caled o'r adroddiad ar gael ar gais.
Cynhelir y cynnig yn unol â gofynion Cod Trefniadaeth Ysgolion LlC (2il Argraffiad) (011 /2018).