Ymgynghoriad ar gynnig i gau'r chweched dosbarth yn Ysgol Gyfun Aberpennar a diwygio'r dalgylch ar gyfer darpariaeth ôl-16 i osod Ysgol Gyfun Aberpennar yn nalgylch Ysgol Gymunedol Aberdâr.
Yn unol â Chod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru (2il Argraffiad) (011/2018), mae Cyfarwyddwr Gwasanaethau Addysg a Chynhwysiant Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (CBSRhCT) wedi paratoi Adroddiad Gwrthwynebu sy'n rhoi crynodeb o'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd mewn perthynas â'r cynnig hwn a'r ymateb iddynt.
Cafodd y rhesymeg y tu ôl i'r cynnig ei amlinellu'n llawn a'i esbonio'n llawn yn y Ddogfen Ymgynghori a gylchredwyd yn eang y llynedd a gellir ei weld yma.
Gellir gweld yr Adroddiad Ymgynghori ar ddefnyddio'r ddolen ganlynol:
O dan Adran 50 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, mae angen cymeradwyo Gweinidogion Cymru ar gynigion sy'n effeithio ar addysg chweched dosbarth. Felly, mae CBSRCT wedi anfon copïau o'r gwrthwynebiadau a dderbyniwyd ynghyd ag Adroddiad Gwrthwynebiad i Weinidogion Cymru. Bydd Gweinidogion Cymru wedyn yn penderfynu a ddylid bwrw ymlaen â'r cynnig, diwygio'r cynnig neu beidio bwrw ymlaen â'r cynnig.
Os bydd Gweinidogion Cymru yn cymeradwyo'r cynnig, bydd yn cael ei weithredu yn unol â'r dyddiad a nodir yn yr Hysbysiad Statudol neu unrhyw ddyddiad a addaswyd yn ddiweddarach. Os bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen, dyna fydd diwedd y cynnig.
Gellir gweld Hysbysiadau Statudol gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol:
Unwaith y bydd Gweinidogion Cymru yn penderfynu ar y cynnig, darperir diweddariad.
Gellir gweld yr Adroddiad Gwrthwynebiad yma:
Cysylltwch â ni
Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant
Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif
Canolfan Menter y Cymoedd
Parc Hen Lofa'r Navigation
Abercynon
CF45 4SN
Rhif Ffôn: 01443 425014 – rhwng 9am & 5pm, dydd Llun – dydd Gwener.
Mae copïau caled o'r adroddiad ar gael ar gais.