Mae Adroddiad Cynnydd Ansawdd yr Aer 2021 yn cynnwys asesiad o ddata monitro diweddar ar gyfer NO2 a PM10, yn ogystal ag adolygiad o ddatblygiadau wedi eu caniatáu yn ddiweddar, mannau o ddiddordeb parhaus a newydd, a pholisïau perthnasol yr Awdurdod Lleol.
Os ydych chi eisiau rhoi sylwadau ar yr adroddiad yma, anfonwch nhw ar bapur neu drwy e-bost i'r cyfeiriadau isod: -
Ansawdd Aer
Materion Llygredd ac Iechyd y Cyhoedd
Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
Tŷ Elái
Dwyrain Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY
E-bost: LlygreddyrAmgylchedd@rhondda-cynon-taf.gov.uk
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dod i ben ar 1 Chwefror 2022. Fydd sylwadau sy'n cyrraedd ar ôl y dyddiad yma ddim yn cael eu hystyried gan y Cyngor wrth drafod Adroddiad Cynnydd 2021 a'i argymhellion. Mae modd i'r holl sylwadau ddod yn fater o gofnod cyhoeddus ac, oni nodir yn wahanol, mae modd cyhoeddi enw a dynodiad y person sy'n gwneud y sylwadau, ynghyd â'r sylwadau.