Skip to main content

Ymgynghoriad ar Gartrefi Gofal Preswyl

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf yn adolygu'r ddarpariaeth cartrefi gofal preswyl i sicrhau ei fod yn darparu'n fewnol yn rhan o'r gwaith cynllunio ar gyfer y dyfodol y gofal hirdymor y mae'r Cyngor yn ei gomisiynu i bobl hŷn. Mae angen i ni ymgynghori ar y cynigion arfaethedig sydd wedi'u cyflwyno ar gyfer dyfodol darpariaeth fewnol y Cyngor, a hoffen ni glywed eich barn chi.

Yr hoff ddewisiadau sydd wedi'u hargymell ar gyfer yr ymgynghoriad.

Mae'r cynigion sydd wedi'u dewis yn cynnwys pob un o'r pum dewis isod:

Dewis 1: Cadw darpariaeth y gwasanaeth presennol mewn pump o gartrefi gofal presennol y Cyngor:

  • Cwrt Clydach, Trealaw
  • Tŷ Pentre, Y Pentre
  • Tegfan, Trecynon
  • Cae Glas, Y Ddraenen Wen
  • Parc Newydd, Tonysguboriau

Dewis 2: Darparu llety newydd gyda 40 o fflatiau Gofal Ychwanegol ag 20 gwely dementia preswyl yn Nhreorci.

Byddai'r datblygiad yma'n cael ei ystyried gyda Linc Cymru a'r bwrdd iechyd. Byddai'n cael ei leoli ar dir ger Cartref Gofal Ystrad Fechan. Mae'r cartref gofal ar gau dros dro heb unrhyw breswylwyr a byddai'n cael ei ddadgomisiynu'n barhaol.

Opsiwn 3: Darparu llety newydd gydag 20 o fflatiau Gofal Ychwanegol a 10 gwely dementia preswyl yng Nglynrhedynog.

Byddai'r datblygiad yma'n cael ei ystyried gyda Linc Cymru. Byddai'n cael ei leoli ar dir ger Cartref Gofal presennol Ferndale House. Byddai'r cartref gofal yn cael ei ddadgomisiynu pan fydd y cyfleuster newydd yn cael ei ddatblygu.

Dewis 4: Darparu llety newydd gyda 25 o fflatiau Gofal Ychwanegol a 15 gwely dementia preswyl yn Aberpennar.

Byddai'r datblygiad yma'n cael ei ystyried gyda Linc Cymru. Byddai'n cael ei leoli ar dir ger Cartref Gofal presennol Troed-y-rhiw. Byddai'r cartref gofal yn cael ei ddadgomisiynu pan fydd y cyfleuster newydd yn cael ei ddatblygu.

Dewis 5: Darparu llety newydd gyda gofal i roi cymorth i oedolion ag anableddau dysgu ym Mhentre'r Eglwys

Byddai hyn yn cael ei gyflawni trwy ailddatblygu Cartref Gofal Garth Olwg. Byddai'r cartref gofal yn cael ei ddadgomisiynu pan fydd lleoliadau addas yn cael eu canfod ar gyfer ei breswylwyr, mewn cartref o'u dewis sy'n diwallu eu hanghenion asesedig.

Caeoedd yr ymgynghoriad i ben ar 27 Ionawr 2023

Anfonwch e-bost:

gofalpreswyl@rctcbc.gov.uk