Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a'i Gynghorau Tref a Chymuned wedi cytuno i ymgynghori ar Siarter ddrafft sy'n nodi sut y byddwn ni'n ymdrechu i gydweithio er budd ein cymunedau lleol, a hynny gan gydnabod ein cyfrifoldebau priodol yn gyrff statudol ymreolaethol a etholwyd yn ddemocrataidd.
Nod y Siarter yw ychwanegu at yr arferion da presennol, yn ogystal â mabwysiadu'r egwyddorion a rennir o ran bod yn agored, er mwyn sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n trigolion a'n cymunedau. Mae'r Siarter yn seiliedig ar bartneriaeth gyfartal ac nid yw'n drefniant o'r brig i lawr. Mae hi'n nodi cyfres o egwyddorion y byddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd yn unol â nhw.
Y bwriad yw bod y siarter yma'n parhau i fod yn ddogfen 'fyw', ac mae hi wedi'i llunio mewn modd sy'n caniatáu i bob Cyngor adlewyrchu eu dull gweithredu yn well, yn hytrach na'u gorfodi i ddilyn camau a gweithdrefnau penodol. Bydd hyn yn helpu i annog cydweithio fel bod modd i bob Cyngor gynnig profiadau gwell i drigolion Cyngor Rhondda Cynon Taf ac ymwelwyr.
Hoffen ni i chi ddweud eich dweud ar ein Siarter ddrafft, ac mae modd gwneud hynny mewn sawl ffordd.
Mae modd gweld y Siarter Ddrafft
Bydd y Siarter yn cael ei hadolygu'n llawn bob pum mlynedd yn dilyn etholiadau, neu'n amlach os oes angen gwneud hynny.
Bydd Clercod ac Uwch Swyddogion y Gwasanaethau Democrataidd yn mynd ati i adolygu'r cyflawniad yn erbyn yr amcanion sydd wedi'u nodi bob blwyddyn.
Bydd yr ymgynhoriad yn cau ar 31 Gorffennaf 2025.
Sut i gysylltu â ni:
Rhadbost RUGK-EZZL-ELBH
Y Garfan Ymgynghori
2 Llys Cadwyn
Taff Street
Pontypridd
CF37 4TH
Rhif ffôn: 01443 425014 – rhwng 9am & 5pm, dydd Llun – dydd Gwener.