Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn falch o gyflwyno
Strategaeth Bwyd Cynaliadwy gyntaf RhCT: Taith Bwyd 2025-2030. Hoffen ni glywed eich barn er mwyn sicrhau bod y strategaeth yn cyfleu barn cynifer o bobl â phosibl yn RhCT.
Y weledigaeth o Taith Bwyd yw sicrhau bod modd i bawb yn RhCT gael mynediad at fwyd maethlon, fforddiadwy a chynaliadwy.
Mae’r strategaeth yn adeiladu ar waith Partneriaeth Bwyd RhCT sydd wedi ennill gwobrau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan ddod â sefydliadau trydydd sector, cyrff cyhoeddus, busnesau ac unigolion ynghyd i rannu brwdfrydedd dros fwyd lleol o ansawdd da, a chreu economi fwyd ffyniannus yn RhCT sydd hefyd yn helpu'r blaned.
Mae Strategaeth Bwyd Cynaliadwy Rhondda Cynon Taf: Taith Bwyd 2025-2030 yn nodi'r meysydd ffocws y mae angen i Bartneriaeth Bwyd RhCT weithio arnyn nhw dros y 5 mlynedd nesaf.
Hoffen ni glywed eich barn.
Bydd yr Ymgynghoriad i ben ar
6 Mai 2025.
Y Garfan Ymgynhori
Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS
2 Llys Cadwyn
Stryd Taf
Pontypridd
CF37 4TH
Rhif ffôn: 01443 425014 – rhwng 9am & 5pm, dydd Llun – dydd Gwener.