Skip to main content

Llwybr Teithio Llesol rhwng Treorci a Threherbert – Cam 1

Y cynnig yw y bydd Cam 1 y Llwybr Teithio Llesol rhwng Treorci a Threherbertyn llwybr cerdded a beicio newydd rhwng Gorsaf Drenau Treherbert ac Ysgol Penyrenglyn yng Nghwm Rhondda Fawr. 

Bydd y Llwybr yn dilyn llwybr y rheilffordd bresennol yn bennaf a bydd yn darparu cysylltiad o gymunedau lleol Treherbert i Ysgol Gynradd Penyrenglyn.

Nod y cynnig yw gwella cysylltedd â chyrchfannau allweddol, gan gynnwys yr orsaf drenau, yr ysgol, a'r gymuned ehangach, a'i fwriad yw sefydlu cyswllt oddi ar y ffordd gydlynol, uniongyrchol, diogel, cyfforddus a deniadol lle bo'n bosibl, gan integreiddio â rhwydweithiau Teithio Llesol presennol a rhai arfaethedig. 

Mae cynnig Llwybr Teithio Llesol rhwng Treorci a Threherbert wedi'i rannu'n 3 cham.

Ar hyn o bryd, mae Cam 1 yn y cyfnod dylunio, a bwriedir iddo gael ei gwblhau erbyn gwanwyn 2026, ac mae eisoes wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru.

Mae Cyfnod 2 a 3, sy'n cysylltu Treherbert â Threorci, wedi'u cynllunio ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn ddiweddarach yn 2025, yn dibynnu ar argaeledd cyllid. 

Bydd yr ymgynghoriad yn gorffen 31 Gorffennaf 2025.

Mae'r ddogfennau ymgynghori a'r deunydd ategol i'w gweld isod.

 Adroddiadau

GC4207-RED-66-XX-DR-C-1003

Cam 1 - Treherbert

Gorsaf Drenau Treherbert ac Ysgol Penyrenglyn dalen 1 of 3 

GC4207-RED-66-XX-DR-C-1004

Phase 1 - Treherbert

Gorsaf Drenau Treherbert ac Ysgol Penyrenglyn dalen 2 of 3

GC4207-RED-66-XX-DR-C-1005

Phase 1 - Treherbert

Gorsaf Drenau Treherbert ac Ysgol Penyrenglyn dalen 3 of 3

Sut i gysylltu â ni:

Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS

Y Garfan Ymgynghori

2 Llys Cadwyn

Taff Street
Pontypridd
CF37 4TH

E-bost: YmgynghoriadTeithioLlesol@rctcbc.gov.uk
Telephone: 01443 425014 – between 9am & 5pm, Monday – Friday.

Dylai'r holl ohebiaeth ddod i law erbyn 31 Gorffennaf 2025 fan bellaf.