Skip to main content

Ymgynghoriad - Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg

Mae Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn gosod dyletswydd ar bob Awdurdod Lleol yng Nghymru i lunio, adolygu ac ymgynghori ar gynlluniau sy'n darparu'r cyfeiriad strategol ar gyfer cynllunio a darparu addysg cyfrwng Cymraeg a'r Gymraeg yn ei ardal.

Ers i'r Cyngor lunio a chyflwyno ein Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg cyntaf ger bron Llywodraeth Cymru, mae newidiadau sylweddol wedi bod yn y sector addysg cyfrwng Cymraeg ar lefel leol a chenedlaethol. Deddfwriaeth sydd wedi dylanwadu'n bennaf ar y newidiadau yma, yn enwedig y Cynllun Gweithredu Cymraeg mewn Addysg - 2017 i 2021 newydd, ac hefyd gweithredu pellach Rhaglen Ysgolion a Cholegau'r 21ain Ganrif. Yn ogystal â hyn, mae rheoliadau ynghylch y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg wedi'u diweddaru. Mae Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) 2019 a Rheoliadau Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (Cymru) (Diwygio) (Y Coronafeirws) 2020 yn canolbwyntio ar bedwar cynnig allweddol, a'r ddau brif gynnig yw:

  • Ymestyn hyd cylch gweithredu'r Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg o'i dair blynedd gyfredol i ddeng mlynedd (2022 hyd at 2032). 
  • Disodli'r ddyletswydd gyfredol ar Awdurdodau Lleol i gynllunio darpariaeth eu haddysg cyfrwng Cymraeg yn seiliedig ar alw ar yr amod bod Awdurdodau Lleol yn cyflawni targedau sydd wedi'u gosod gan Lywodraeth Cymru. Nod y targedau yma yw cynyddu canran y dysgwyr Blwyddyn Un mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn ystod cyfnod y Cynllun Strategol yma.

Mae sicrhau ysgolion da yn ganolog i gyflawni'r nodau hyn fel bod gan bob plentyn a pherson ifanc yr un mynediad i addysg gyfrwng Gymraeg ac addysg Gymraeg gadarn. Bydd y Cyngor yn darparu hyn drwy sicrhau bod addysg Gymraeg ar gael i bawb waeth pa anghenion dysgu sydd gyda nhw, o ddechrau'r blynyddoedd cynnar, trwy'r ysgol gynradd ac uwchradd, ac ymlaen at addysg bellach ac addysg uwch. Mae hyn yn cydfynd â'r weledigaeth o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, fel sydd wedi'i nodi yn nogfen 'Cymraeg 2050: - Miliwn o Siaradwyr Cymraeg'.

Er mai'r Cyngor sydd â'r cyfrifoldeb statudol am y Cynllun Strategol, mae gydag ystod o grwpiau a sefydliadau allanol rôl allweddol wrth lunio, gweithredu a gwerthuso ei gynnydd yn rheolaidd trwy gydol ei oes.

Targed y Cyngor yn ystod oes deng mlynedd y Cynllun Strategol yma, wedi'i osod gan Lywodraeth Cymru, yw:

Cynyddu canran y disgyblion Blwyddyn Un mewn addysg cyfrwng Cymraeg rhwng 8.0% a 12.0% yn ystod oes deng mlynedd y Cynllun Strategol Cymraeg yma. Mae hyn yn cyfateb i gynnydd o 506* o ddisgyblion Blwyddyn Un mewn addysg cyfrwng Cymraeg i rhwng 720 ac 825.

*Mae'r targed yma'n seiliedig ar ddata CYBLD 2019/20.

Bydd y targed yma'n cyfrannu at y targed tymor hir cyffredinol sydd wedi'i nodi yn nogfen 'Cymraeg 2050 - Miliwn o Siaradwyr Cymraeg'. Caiff ei gyflawni drwy saith deilliant. Y deilliannau, sydd wedi'u pennu gan Lywodraeth Cymru, yw:

  1. Deilliant 1: Mwy o ddisgyblion Meithrin / tair oed yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
  2. Deilliant 2: Mwy o ddisgyblion dosbarth Derbyn / pump oed yn derbyn eu haddysg trwy gyfrwng y Gymraeg.
  3. Deilliant 3: Mwy o blant yn parhau i wella eu sgiliau iaith Gymraeg wrth bontio o un Cyfnod o'u haddysg statudol i un arall.
  4. Deilliant 4: Mwy o ddisgyblion yn astudio ar gyfer cymwysterau wedi'u hasesu yn y Gymraeg (y pwnc) a phynciau trwy gyfrwng y Gymraeg.
  5. Deilliant 5: Mwy o gyfleoedd i ddisgyblion ddefnyddio'r Gymraeg mewn cyd-destunau gwahanol yn yr ysgol.
  6. Deilliant 6: Cynyddu darpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.
  7. Deilliant 7: Cynyddu nifer y staff addysgu sy'n gallu addysgu'r Gymraeg ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg.

Rhoi eich barn i ni

Hoffen ni geisio'ch barn ar sut mae'r Cyngor a'i bartneriaid yn bwriadu cyflawni targed y Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg a phob un o'r saith deilliant.

Mae'r ymgynghoriad yn dechrau ddydd Llun, 13 Medi ac yn gorffen am 5pm, ddydd Llun, 8 Tachwedd.

Mae sawl ffordd i chi gael dweud eich dweud:

Ar-lein:

E-bost:

Anfon e-bost aton ni - ymgynghori@rctcbc.gov.uk

Rhif ffôn

Os byddai'n well gyda chi rannu'ch barn drwy siarad â rhywun, neu os oes angen copïau papur o'r wybodaeth arnoch chi,

Ffoniwch - 01443 425014

Ysgrifennu aton ni:

Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS

 

Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
 Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX