Hyrwyddwr Digidol yw rhywun sy'n helpu eraill i ddefnyddio'u cyfrifiadur, llechen, ffôn neu unrhyw ddyfais arall y maen nhw'n eu defnyddio i gysylltu â'r we.
Efallai mai chi yw Hyrwyddwr Digidol eich teulu neu grŵp o ffrindiau ac mae gyda chi amser i helpu eraill yn y gymuned. Mae 23% o bobl yn RhCT heb gysylltiad i'r we. Rydyn ni'n gwneud pob dim a gallwn ni i sicrhau bod neb dan anfantais mewn byd mwy mwy digidol.
Pwy sy'n gallu bod yn Hyrwyddwr?
Mae modd i unrhyw un sy'n hyderus wrth ddefnyddio'r we ac sy'n gallu gwneud ymrwymiad - bach neu fawr - er mwyn helpu eraill i gysylltu â'r we, bod yn hyrwyddwr.
Beth fyddwch chi'n ei gael o fod yn Hyrwyddwr Digidol?
- Mae hwn yn rôl wirfoddol, felly mae modd i chi fod yn hyblyg o ran argaeledd. Byddwch chi wedi'ch lleoli yn un o sesiynau Dydd Gwener Digidol sy'n cael eu cynnal yn un o lyfrgelloedd y Fwrdeistref neu leoliad arall yn y gymuned. Byddwch chi'n cwrdd â phobl newydd ac yn darparu cymorth gwerthfawr.
- Yn ogystal â chael boddhad o helpu eraill i ddysgu rhai o sgiliau pwysicaf bywyd, byddwch chi'n ychwanegu rhywbeth amhrisiadwy at eich CV. Efallai eich bod chi'n hoff iawn o weithio gyda thechnoleg ac yn cael eich ysbrydoli wrth ddangos rhannau gorau'r we i eraill.
- Byddwch chi hefyd yn cael cyfle i ddysgu sgiliau newydd hefyd. Os wyt ti'n chwilio am waith, dyma ffordd wych o ennill profiad.
Pwy fyddwch chi'n eu helpu?
- Byddwch chi'n helpu nifer o bobl sydd heb ddefnyddio cyfrifiadur o'r blaen. Hyd yn oed os ydyn nhw wedi defnyddio cyfrifiadur, mae'n debygol y bydd gyda nhw gwestiynau. Bydd rhai pobl eisiau gwybod y pethau mwyaf sylfaenol (troi cyfrifiadur ymlaen a defnyddio llygoden), Bydd rhai yn gofyn cwestiynau ynglŷn â'r we ac eraill yn chwilio am gymorth wrth gwblhau ffurflenni ar-lein.
- Byddwch chi'n cael y cyfle i gefnogi nifer o achlysuron yn y gymuned.
Beth fyddwch chi'n ei angen?
- Bydd gyda chi sgiliau cyfrifiadureg da, sylfaenol.
- Byddwch chi'n hyderus wrth ddefnyddio'r we.
- Byddwch chi'n frwdfrydig am yr hyn y mae modd ei wneud ar y we er mwyn gwneud bywyd yn haws, boddhaol ac er mwyn arbed arian.
- Byddwch chi'n amyneddgar ac yn awyddus i helpu eraill sydd heb ddefnyddio'r we o'r blaen (ac yn barod i ddangos nad oes rhaid ofni'r we!).
- Dylech chi fod yn barod i deithio o gwmpas Bwrdeistref RhCT am hyfforddiant (
Cymryd y cam nesaf
Os hoffwch chi gofrestru i fod yn Hyrwyddwr Digidol, ewch i wefan ein partner - Cymunedau Digidol Cymru a llenwch y ffurflen byr
Oedd yr wybodaeth hon yn ddefnyddiol?