Bydd cysylltiad di-wifr cyhoeddus am ddim yn cael ei gyflwyno ar draws saith Canol Tref y Fwrdeistref Sirol er mwyn:
- Gwneud Canol ein Trefi yn fwy deniadol
- Gwella mynediad at wasanaethau cyhoeddus sydd ar gael ar y we
- Cynnig rhagor o gyfleoedd dysgu drwy ddeunyddiau dysgu ar y we.
Gan gyflawni ymrwymiad a wnaed gan y Cyngor yn 2017, bydd cysylltiad di-wifr cyhoeddus am ddim yn cael ei osod yng Nghanol Trefi fel cam rhagweithiol arall i gefnogi busnesau prif strydoedd y Fwrdeistref Sirol. Bydd y gwasanaeth yma'n cael ei ddarparu gan Blue Sky Solutions.
Eich Gwybodaeth Bersonol
Er mwyn defnyddio WiFi Canol y Dref yn ein lleoliadau penodol, mae'n bosibl bydd Blue Sky Solutions yn casglu eich data personol er mwyn darparu'r Gwasanaeth WiFi am ddim i chi.
I gael rhagor o wybodaeth am sut bydd Blue Sky Solutions yn trin eich data personol, mae modd i chi weld ei bolisi preifatrwydd drwy'r ddolen ganlynol.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Norris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Gwasanaethau Corfforaethol:
“Bydd darparu cysylltiad di-wifr am ddim yn rhoi hwb pwysig arall i Ganol ein Trefi, a bydd yn darparu cyfleuster arbennig arall i annog trigolion ac ymwelwyr i siopa'n lleol.
"Bydd y ddarpariaeth ar gael yng nghanol tref Aberdâr i ddechrau, cyn cael ei chyflwyno ar draws gweddill Canol Trefi'r Cyngor yn ystod y flwyddyn sydd i ddod. Mae cysylltiad di-wifr am ddim yn fuddsoddiad cadarnhaol arall i Ganol ein Trefi, gyda'r nod o annog trigolion i wario'n lleol ac ymweld â'n trefi am gyfnodau hirach, gan fanteisio ar yr amrywiaeth eang o fusnesau sydd ar gael. Yn ogystal â gweld potensial sylweddol i'r buddsoddiad yma mewn technoleg gynyddu nifer yr ymwelwyr â Chanol Trefi, mae hefyd yn ymwneud â chefnogi busnesau lleol, a masnachwyr annibynnol, i weithredu mewn modd mwy digidol.
“Rydyn ni'n aml yn clywed bod arferion siopa pawb yn newid ac mae hyn yn un o'r heriau mwyaf sy'n wynebu prif strydoedd lleol ledled y DU. Bydd y modd i weithredu mewn ffordd fwy digidol yn galluogi busnesau lleol i ymgysylltu ag ystod ehangach o gwsmeriaid, a chefnogi cynaliadwyedd busnesau lleol a chanol ein trefi ar yr un pryd. Unwaith eto, mae'r buddsoddiad yma'n dangos ein hymrwymiad i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi ein busnesau yng Nghanol Trefi a phrif strydoedd lleol, er lles y gymuned ehangach.”