Ar adeg pan mae'n rhaglen gyfalaf flynyddol yn fwy ei maint nag erioed, mae sylw'n cael ei roi yn ein hymgyrch Trawsnewid RhCT i'r hyn rydyn ni'n buddsoddi ynddo a'r modd mae hyn yn rhoi budd i'n cymunedau nawr, a'r budd a ddaw yn ei sgil yn y dyfodol. Ar hyd y ffordd fe fyddwn ni hefyd yn cwrdd â rhai o'r bobl y bydd y buddsoddi yma'n eu helpu.
Mae cymaint o bethau da yn digwydd yn y Cyngor. Rydyn ni'n cynnal 650 gwasanaeth i gyd, ac mae nifer ohonyn nhw'n gweithredu bob dydd. Bron nad oes modd sylwi arnyn nhw gan eu bod nhw'n gweithio mor dda – diolch i'n staff sy'n gwneud gwaith arbennig. Ond wnawn ni fyth gymryd y gwaith yma sy'n mynd rhagddo o hyd, yn ganiataol.
Ynghyd â hyn, mae'r Cyngor yn parhau i ofalu bod cyllid cyfalaf ar gael i'w fuddsoddi mewn meysydd blaenoriaeth sydd o bwys mawr i'n trigolion. Mae'r meysydd yma'n amrywio o ffyrdd i drafnidiaeth i liniaru llifogydd, gofal preswyl, prosiectau adfywio mwy eu maint, cyfleusterau mewn ysgolion, meysydd chwarae, a'r hyn sydd ar gael o ran hamdden.
Mae'n rhaglen gyfalaf wedi cynyddu i bum gwaith ei gwerth o gymharu â'r sefyllfa 10 mlynedd yn ôl – roedd dros £200 miliwn ar gyfer 2025/26, ym mis Medi 2025. Dyw hyn ddim yn cynnwys £11.5 miliwn ychwanegol sydd wedi'i nodi ers hynny ar gyfer meysydd blaenoriaeth.
Mae gwybodaeth yn y tudalennau a ganlyn ynghylch y modd rydyn ni'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn ein cymunedau: