Mae rhan bwysig o'n buddsoddiad Ymlaen RhCT yn cael ei chyflawni trwy garfan Adfywio'r Cyngor. Mae datblygu a chyflawni prosiectau mawr nid yn unig yn dod â chyfleusterau ac amwynderau newydd i gymunedau – ond mae hefyd yn denu ymwelwyr, yn darparu hwb i fasnachwyr lleol ac ardaloedd manwerthu, ac yn annog buddsoddiad gan y sector preifat yn lleol.
Prosiectau sy’n mynd rhagddyn nhw
Dau o'r prosiectau mawr sy'n cael eu datblygu ar hyn o bryd yw hen safle M&S Pontypridd a safle Rock Grounds yn Aberdâr.
Mae datblygiad safle'r hen M&S ym Mhontypridd yn trawsnewid safle amlwg yng nghanol y dref yn 97-102 Stryd y Taf yn ofod cyhoeddus 'plasa glan yr afon' gyda mannau gwyrdd, a fydd yn agor y drefwedd tuag at yr afon am y tro cyntaf ers dros 100 mlynedd. Bydd yn cynnwys ciosgau bach sy'n gwerthu bwyd a diod, tra bydd y safle hefyd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi achlysuron lleol.
Mae'r cynllun yn parhau i elwa ar gyllid sylweddol gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru (£3.68 miliwn) a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth San Steffan (£1.95 miliwn). Dechreuodd y gwaith ar y safle ym mis Chwefror 2025, a bydd yn cael ei gwblhau yn 2026.
Bydd safle Rock Grounds yn Aberdâr yn cael ei ailddatblygu er mwyn sefydlu gwesty o ansawdd, bwyty, bar a sba ar y lleoliad amlwg ger canol y dref. Bydd y cyfleusterau sy'n rhan o'r gwesty ar gael i'w defnyddio gan y gymuned – tra bydd y datblygiad ehangach yn cadw adeilad hanesyddol Rock Grounds a'i nodweddion, yn cynnal lefel briodol o barcio ceir cyhoeddus i wasanaethu canol y dref, ac yn cadw penddelw Keir Hardie.
Penodwyd Final Frontier Space Holdings i ddylunio, datblygu ac adeiladu'r prosiect, a chynhaliwyd ymgynghoriad yn haf 2025 i'r cyhoedd gael dweud eu dweud ar y dyluniadau cychwynnol. Mae camau presennol y prosiect yn cael eu hariannu gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU.
Prosiectau a Gwblhawyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf
Mae'r rhain yn dilyn nifer o ddatblygiadau Adfywio a gwblhawyd yn llwyddiannus yn ystod y blynyddoedd diwethaf – gan gynnwys swyddfeydd newydd, campfa a llyfrgell yn Llys Cadwyn a phont droed y parc sy'n cyd-fynd â hi, adfer Y Muni, darparu’r Hwb YMa, agor Hwb Trafnidiaeth y Porth, a'r gofod cyhoeddus newydd o safon a'r arosfannau bysiau yn hen safle neuadd bingo Pontypridd.
Mae enghreifftiau eraill o brosiectau lleol yn cynnwys buddsoddiad parhaus ym Mharc Coffa Ynysangharad gan ddefnyddio Cyllid y Loteri Dreftadaeth, a chreu mannau parcio ychwanegol yn Stryd Hannah, Porth ar safle canol tref diffaith.
Strategaethau Canol Trefi
Mae'r Cyngor wedi datblygu Strategaethau Canol Trefi ar gyfer Aberpennar, Porth, Pontypridd, ac Aberdâr yn fwyaf diweddar. Fe wnaethon nhw gyflwyno gweledigaethau clir, uchelgeisiol a chytunedig ar gyfer pob tref, sydd bellach wedi'u mabwysiadu ac yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol. Bydd y strategaeth nesaf yn canolbwyntio ar dref Tonypandy, ac ymgynghorwyd ar ddrafft yn ystod haf a dechrau hydref 2025.
Helpu busnesau i gael mynediad at gyllid
Rôl allweddol arall y garfan Adfywio yw helpu busnesau i wneud cais am gyllid allweddol ar gyfer prosiectau lleol a chael mynediad iddo. Dwy enghraifft ddiweddar oedd datblygiadau preifat llwyddiannus y Gwesty Pencelli yn Nhreorci a chyn Adeilad Ardrethi Aberdâr – a daeth y ddau ag adeiladau nas defnyddiwyd yn ôl i ddefnydd, gyda swyddogion yn cynorthwyo'r perchnogion priodol i gael mynediad at gyllid allanol. Darllenwch ragor yma: