Skip to main content

Llwybr Teithio Llesol Rhondda Fach

 
Mae llwybr cerdded a beicio newydd 10 cilometr o hyd, sy’n dechrau ym mhentref Maerdy yng ngogledd ardal Rhondda Fach ac sy’n dod i ben ym mhentref Tylorstown yn y de, bellach ar gael i'w fwynhau diolch i fuddsoddiad sylweddol gan y Cyngor a Llywodraeth Cymru.
    

Mae'r fideo yma'n dangos swyddogion o garfan Chwaraeon RhCT yn beicio ar hyd y prif lwybr! Beth am ymweld â’r llwybr cyn hir?

Cafodd y prosiect mawr yma ei rannu’n gamau llai llai a’i gyflawni rhwng 2023 a 2026, gan greu llwybr cerdded a beicio a fu'n flaenoriaeth i'r Cyngor ers tro. Mae'r cyfleuster newydd yn dilyn yr hen linell reilffordd i raddau helaeth, ac mae'r prosiect hefyd wedi creu cysylltiadau allweddol â thirnodau cymunedol, fel sydd i'w gweld ar y map canlynol:

Active-travel-map

Cafodd y prosiect ei rannu'n bum prif gam at ddibenion dylunio, datblygu ac adeiladu. Roedd camau un, dau, pedwar a phump yn mynd i’r afael â’r prif lwybr o betnref Maerdy i ardal Tylorstown. Bydd cam tri yn cynnwys creu cyswllt newydd ym mhentref Maerdy yn y dyfodol:

  • Cafoddcam un ei gwblhau ddiwedd 2023. Creodd y gwaith yma ben mwyaf gogleddol y llwybr teithio llesol cyffredinol, o leoliad i'r gogledd o ystad ddiwydiannol Maerdy i bwynt ger Cofeb Porth Maerdy.
  • Cafoddcam dau ei gwblhau yn 2024, gan ailafael yn y llwybr i'r de o gam un.  Mae'n ymestyn trwy ardal Maerdy am 1.5 cilometr o Gofeb Porth Maerdy, gan ddilyn yr hen reilffordd.
  • Byddcam tri yn cynnwys creu llwybr 1.5 cilometr newydd sy'n cysylltu â’r prif lwybr ac yn mynd i gyfeiriad Stryd Richard a chyfleusterau megis Pwll Nofio Glynrhedynog, Ysgol Gymunedol Glynrhedynog ac Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn ym mhentref Maerdy. Derbyniodd y cam yma ganiatâd cynllunio ym mis Mehefin 2024, ac mae swyddogion wrthi’n ceisio cyllid fel bod modd cyflawni’r cam yma.
  • Cafoddcam pedwar ei gwblhau yn 2025, gan uwchraddio'r hen reilffordd ar draws Glynrhedynog – o bwynt i'r gogledd o Deras Ffaldau (ger Maerdy) i bwynt ger Cartref Angladdau Dolycoed (Tylorstown).  Roedd yn cynnwys cyswllt newydd â Stryd yr Afon (Glynrhedynog) ac adeiladu dwy bont droed newydd ym Mlaenllechau.
  • Agoroddcam pump yn 2026, gyda'r prif lwybr yn parhau o Ganolfan Hamdden Rhondda Fach i drosbont Stanleytown. Cafodd tair pont droed newydd eu gosod, gyda'r gwaith yn parhau ar ôl ei agor ym mis Mai 2026 i ddarparu cysylltiadau newydd pwysig â Chanolfan Hamdden Rhondda Fach a Meddygfa Tylorstown.

Roedd y Cyngor wedi cyflawni'r prosiect cyffredinol, gan fanteisio ar gyllid Cronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru dros sawl blwyddyn. Chwaraeodd cwmni Trafnidiaeth Cymru ran bwysig o ran gweinyddu a darparu cyngor mewn perthynas â’r cynllun.