Skip to main content

Prosiectau Buddsoddi mewn Gofal Preswyl

 

Mae gyda'r Cyngor ymrwymiad parhaus i foderneiddio dewisiadau gofal preswyl ar gyfer pobl hŷn yn Rhondda Cynon Taf, drwy fuddsoddi mewn lletyau gofal newydd gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf - gan ymateb i newidiadau sydd wedi'u hadrodd o ran anghenion a disgwyliadau pobl hŷn. Mae'r dudalen yma yn amlinellu pob prosiect sydd wedi'i gwblhau, sydd wrthi’n mynd rhagddo ac sydd wedi'i gynllunio.

Residential-care-investment-V2

 

 

 

 

 

 

 

 

Prosiectau sydd wedi'u cwblhau

Gofal Ychwanegol Maes-y-ffynnon, Aberaman

Cafodd y cynllun yma yng Nghwm Cynon ei ddarparu mewn partneriaeth â Linc Cymru yn 2020, er gwaethaf heriau'r pandemig. Mae wedi creu 40 fflat gofal ychwanegol o'r radd flaenaf mewn adeilad modern ar safle hen Gartref Gofal Preswyl Maes-y-ffynnon, yn ogystal â sawl cyfleuster ar gyfer y gymuned.

Maesyffynnon

Cwrt yr Orsaf, Pontypridd

Cafodd y cynllun yma yng Nghwm Cynon ei ddarparu mewn partneriaeth â Linc Cymru yn 2020, er gwaethaf heriau'r pandemig. Mae wedi creu 40 fflat gofal ychwanegol o'r radd flaenaf mewn adeilad modern ar safle hen Gartref Gofal Preswyl Maes-y-ffynnon, yn ogystal â sawl cyfleuster ar gyfer y gymuned.

Cwrt Yr Orsaf

Beth yw Gofal Ychwanegol? Dyma wybodaeth am ein buddsoddiad yn Rhondda Cynon Taf

 

Prosiectau sy’n mynd rhagddyn nhw

Gofal Ychwanegol Dan-y-Mynydd, Porth

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar safle hen Gartref Gofal Preswyl Dan y Mynydd yn 2024, gan ailddefnyddio’r tir diffaith amlwg yma. Bydd yn creu 60 gwely gofal ychwanegol newydd ar gyfer y gymuned ar y cyd â Linc Cymru, yn ogystal â chyfleusterau modern, a chanolfan oriau dydd a fydd yn cael ei rhedeg gan y Cyngor. Mae disgwyl i'r prosiect yma gael ei gwblhau ddechrau 2026.

Artist Impression - Dan y Mynydd

Llety gofal arbenigol, Gelli

Mae'r prosiect cyffrous yma yn creu llety gofal arbenigol ar gyfer oedolion a phobl hŷn sydd ag anableddau dysgu. Dechreuodd y gwaith adeiladu ar safle hen Gartref Gofal Preswyl Bronllwyn ddiwedd 2024 - ac mae disgwyl i'r llety yma o'r radd flaenaf agor yn 2026.

Bronllwyn specialist accommodation gelli

Cynlluniau sydd wedi'u cynllunio

Llety gofal newydd, Aberpennar

Mae'r cynllun yma ar Heol y Darren mewn partneriaeth â Linc Cymru, a bydd yn darparu fflatiau gofal ychwanegol, gwelyau gofal dementia a bynglos ’Byw’n Hŷn’ ar un safle. Cafodd caniatâd cynllunio llawn ei roi yn 2024, ac mae gwaith clirio'r safle wedi'i gyflawni er mwyn paratoi ar gyfer y prif gam adeiladu yn 2025.

Darran Road, Mountain Ash

Cartref gofal dementia preswyl, Glynrhedynog

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddarparu'r cartref yma â 32 o welyau ar gyfer gofal dementia, i gymryd lle Cartref Gofal presennol Ferndale House.  Bydd yn cael ei adeiladu ar safle’r hen Ffatri Chubb, gyda phreswylwyr a staff yn symud i'r cartref newydd. Bydd gweithgaredd ymgysylltu â'r gymuned yn llywio cais cynllunio yn 2025.

Ferndale residential artist impression


Mae'r Cyngor wedi ymrwymo hefyd i ddatblygu prosiectau sydd wedi'u cynllunio ar gyfer y dyfodol ym Mhentre'r Eglwys (llety ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu) a Threorci (cynllun gofal ychwanegol). Byddan nhw'n cael eu hychwanegu at y dudalen yma unwaith eu bod nhw wedi gwneud cynnydd pellach.