Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn gofal ychwanegol a chynyddu nifer y gwelyau yn y Fwrdeistref Sirol er mwyn diwallu angen. Mae hyn yn cynnwys datblygu nifer o gynlluniau tai gofal ychwanegol modern newydd yn ein cymunedau lleol. Mae'r dudalen yma'n cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod am ofal ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf
Beth yw Gofal Ychwanegol?
Mae Gofal Ychwanegol yn darparu llety modern a gofal 24 awr i ddiwallu anghenion a bodloni disgwyliadau newidiol y boblogaeth hŷn sy'n tyfu, gan roi'r cyfle iddyn nhw fyw bywydau mor annibynnol â phosibl yn eu cartrefi eu hunain.
Mae tai Gofal Ychwanegol yn rhoi dewis gwahanol i ofal preswyl, gofal nyrsio, a thai lloches, Ei nod yw darparu 'cartref am oes' i lawer o bobl hyd yn oed os yw eu hanghenion gofal yn newid dros amser. Mae tai gofal ychwanegol yn wahanol i'r ffurfiau mwy traddodiadol o ofal a thai lloches oherwydd:
- Mae pobl yn byw yn eu cartref eu hunain
- Mae'n ymwneud ag ansawdd bywyd nid dim ond ansawdd y gofal
- Mae gan bobl eu cartref hunangynhwysol eu hunain a'u drws ffrynt eu hunain
- Gall cyplau a ffrindiau aros gyda'i gilydd
- Mae cymysgedd o bobl â lefelau gwahanol o angen
- Mae ein gwasanaethau gofal i'w cael ar y safle ac yn darparu gofal hyblyg wedi'i deilwra i ddiwallu anghenion yr unigolyn
- Mae pobl yn cael cymorth i gadw eu hannibyniaeth
- Mae modd i bobl ymuno â gweithgareddau sy'n cael eu trefnu
- Mae sicrwydd tai - y nod yw cynnig cartref am oes
Dyma enghraifft o'r cyfleusterau sydd ar gael yn natblygiad gofal ychwanegol Cwrt yr Orsaf a agorodd yn Y Graig, Pontypridd yn 2021.
Cyfleusterau sydd ar gael ar safleoedd Gofal Ychwanegol
Mae fflatiau fel arfer yn cynnwys 1 neu 2 ystafell wely. Mae gan bob fflat ystafelloedd gwely hygyrch, ystafell fyw, cegin ar wahân a chyfleusterau ystafell wlyb..
Mae tai gofal ychwanegol hefyd yn debygol o gynnwys:
- lifftiau a rheiliau llaw yn yr holl fannau cymunedol
- gwasanaethau technoleg gynorthwyol/larwm cymunedol
- cyfleusterau seibiant
- lolfeydd, bwytai a chaffi
- ystafell weithgareddau, ystafell gyfrifiaduron ac/neu ystafell sinema
- siop drin gwallt neu ystafell les
- golchdy
- storfa sgwter symudedd
- ystafell ymolchi â chymorth
- cyfleusterau ar gyfer gwestai
- gerddi wedi'u tirlunio
- parcio.
Dyma rai o'r cyfleusterau sydd yn natblygiad gofal ychwanegol Cwrt yr Orsaf.
Mae cyfleusterau Gofal Ychwanegol hefyd yn rhoi'r cyfle inni gynnig gwasanaethau oriau dydd penodol ar gyfer pobl hŷn, yn ogystal ag adnodd cymunedol sy'n cynnig cyfleoedd yn y gymuned.
Mae staff ar ddyletswydd 24 awr y dydd. Mae'n ddelfrydol ar gyfer pobl sydd â chyflyrau iechyd sy'n gwaethygu yn y tymor hir, pobl sydd angen gofal yn ystod y nos neu bobl sydd ag anghenion sy'n gallu newid yn gyflym. Mae'r gofal yn hyblyg ac mae'n gallu cael ei addasu ar gyfer eich anghenion personol.
Beth yw'r ddarpariaeth gofal ychwanegol bresennol a beth yw darpariaeth y dyfodol?
Dechreuodd ymrwymiad y Cyngor i fuddsoddi mewn cyfleusterau gofal ychwanegol newydd yn 2017, dim ond un cyfleuster gofal ychwanegol oedd yn Rhondda Cynon Taf bryd hynny, sef Tŷ Heulog yn Nhonysguboriau (40 o welyau gofal ychwanegol).
Ers hynny, mae'r Cyngor wedi gweithio mewn partneriaeth â Linc Cymru i gyflwyno rhaglen o brosiectau modern ledled y Fwrdeistref Sirol. Cafodd dau gynllun tai gofal ychwanegol newydd eu cwblhau a'u hagor yn 2020 a 2021 – sef Maes-y-ffynnon yn Aberaman (40 o welyau Gofal Ychwanegol) a Chwrt yr Orsaf ym Mhontypridd (60 o welyau Gofal Ychwanegol).
Yn y cyfamser, mae nifer o brosiectau eraill wrthi'n cael eu dylunio a'u cyflawni.
Ailddechreuodd gwaith adeiladu cynllun gofal ychwanegol newydd yn ardal Porth yn 2024, ar safle hen Gartref Gofal Dan-y-Mynydd, ac mae gwaith yn mynd rhagddo tuag at ei gwblhau yn gynnar yn 2026.
Hefyd, rhoddwyd caniatâd cynllunio ar gyfer cynllun newydd yn Aberpennar, a fydd yn ddatblygiad modern gyda chymysgedd o dai gofal ychwanegol, llety gofal dementia preswyl a llety 'Byw'n Hŷn'.Cafodd safle'r hen Bafiliynau oddi ar Heol y Darren ei glirio ar gyfer y datblygiad yn gynnar yn 2025, ac mae disgwyl i'r prif gam adeiladu ddechrau'n hwyrach yn y flwyddyn.
Mae cynllun ar gyfer y dyfodol wedi'i gynllunio i gael ei leoli yn ardal Treorci.
Agorwyd cyfleusterau gofal ychwanegol o'r radd flaenaf yn y Y Graig, Pontypridd (ar y chwith) ac yn Aberaman (ar y dde) yn 2021.
Ydy Gofal Ychwanegol yn addas i mi?
Mae Gofal Ychwanegol yn gallu cwrdd ag ystod eang o anghenion gofal a chymorth. Serch hynny, fyddwch chi ddim yn cael cynnig gofal ychwanegol nes eich bod chi wedi cael asesiad i weld a ydych chi'n gymwys i gael cymorth ac a ydych chi angen gofal ychwanegol. Os bydd yr asesiad yn nodi eich bod chi'n gymwys bydd modd i ni eich symud chi i mewn i lety addas.
I fod yn gymwys i gael Tŷ Gofal Ychwanegol:
- rhaid i chi fod yn 50 oed neu'n hŷn
- rhaid bod gyda chi anghenion gofal cymdeithasol, anabledd corfforol neu anabledd dysgu neu salwch meddwl
Cost
Bydd angen i chi dalu:
- rhent am y fflat
- tâl gwasanaeth am gynnal yr adeilad a'r cyfleusterau
- pryd poeth canol dydd
- costau cartref cyffredinol fel biliau cyfleustodau, biliau ffôn a threth y cyngor
- gofal a chymorth
Dyma enghraifft o'r cyfleusterau ymolchi sydd ar gael yn rhan o gynllun gofal ychwanegol Maes-y-ffynnon.
Efallai bydd modd i chi gael cymorth "tuag at gost y rhent a'r tâl gwasanaeth a threth y cyngor".
Bydd costau gofal a chymorth yn amrywio yn ôl eich anghenion. Mae’r swm rydych chi'n ei dalu am eich gofal yn dibynnu ar eich anghenion a'ch amgylchiadau ariannol. Byddwn ni'n gwneud "asesiad ariannol gofal dibreswyl" i gyfrifo yn union y swm mae modd i chi ei dalu.
Rhagor o wybodaeth ac adnoddau:
Mae'r cynlluniau gofal ychwanegol arfaethedig yn seiliedig ar egwyddorion Housing Lin ar gyfer datblygu'r cyfleusterau gofal ychwanegol arfaethedig. Mae manylion llawn am yr egwyddorion a phrosesau yn cael eu darparu gan Housing Lin.