Skip to main content

Her Ysgolion Cynaliadwy Glyn-coch

 

Prosiect arloesol: creu ysgol gynradd Saesneg a chanolfan gymunedol, newydd, ar gyfer Glyn-coch. Bydd drysau'r ysgol newydd yn cael eu hagor i ddisgyblion Ysgolion Cynradd Cefn a Craig-Yr-Hesg, sydd ar y cyd yn dwyn yr enw 'Ffederasiwn Fern'. Bydd yr ysgol newydd yn gwasanaethu dalgylch cyfunol y ddwy ysgol yma.

Fe fydd yn cael ei hadeiladu ar safle presennol Ysgol Gynradd Craig-Yr-Hesg, a'r tir gerllaw. Mae'r prosiect wedi cael cymorth ariannu drwy Her Ysgolion Cynaliadwy Llywodraeth Cymru. Menter arloesol yw hon ar gyfer creu tair ysgol newydd yng Nghymru; mae un yn Rhondda Cynon Taf, un yng Nghastell-nedd Port Talbot a’r llall yng Ngwynedd. Bydd yr ysgolion yma’n ymgorffori cynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd ymgysylltu â rhanddeiliaid yn digwydd ar bob cam o'r gwaith cynllunio ac adeiladu, felly hefyd pan fydd drysau'r ysgolion wedi'u hagor. Bydd yr ysgol newydd ar gyfer Glyn-coch yn blaenoriaethu iechyd a llesiant disgyblion, staff a chymuned Glyn-coch.

Diweddariadau Fideos Disgyblion

Dyma'r diweddariad fideo mwyaf cyfredol gan 'Fern Criw'.

Gweld diweddariadau blaenorol ynghylch yr ysgol 


Taith Rithiol

Beth am fynd ar daith rithiol o gwmpas yr ysgol newydd?

 

Cefn-Entrance

Cefndir y Prosiect

CyH-Yard

Gweithio gyda Chymunedau'r Ysgol

Glyn-Coch-Top

Diweddariadau ynghylch Cynnydd y Prosiect