Skip to main content

Ysgol 3-16 oed newydd Pontypridd

Bydd y buddsoddiad arfaethedig yn darparu gwelliannau gwerth £15 miliwn i safle presennol Ysgol Uwchradd Pontypridd. Bydd disgyblion yr ysgol bresennol a disgyblion Ysgol Gynradd Cilfynydd yn cael eu croesawu yno erbyn mis Medi 2024.

Bydd yr ysgol 3-16 oed newydd yn cael ei darparu’n rhan o fuddsoddiad gwerth £75.6 miliwn y Cyngor mewn cyfleusterau addysg newydd ledled ardal ehangach Pontypridd. Bydd y prosiect yn cael ei ddarparu ar y cyd â Llywodraeth Cymru, yn rhan o'i Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu. Mae'r datblygiad yn amodol ar dderbyn caniatâd cynllunio.

Bydd y prosiect yn creu ardal ysgol gynradd newydd sbon, gan geisio sicrhau ei bod yn ysgol Garbon Sero-Net. Bydd maes chwaraeon 3G newydd ac Ardal Gemau Aml-ddefnydd yn cael eu hadeiladu ar safle ehangach yr ysgol. Bydd rhannau o brif adeilad yr ysgol bresennol yn cael eu hadnewyddu, tra bo maes parcio presennol yr ysgol yn cael ei ad-drefnu.

Mae'r Cyngor wedi gwahodd preswylwyr i ddod i ddysgu rhagor ac i ddweud eu dweud mewn proses ymgynghori ar faterion cynllunio (Mawrth/Ebrill 2023), er mwyn llywio'r cynllun cyn i gais cynllunio cael ei gyflwyno'n ffurfiol.