Nod Canolfan Cydnerthedd y Gymuned Llys Cadwyn yw dwyn ynghyd ystod eang o wasanaethau, gwybodaeth a chymorth o dan un to yng nghanol tref Pontypridd.
Cyfleusterau
Cydlynydd Cymuned Cyngor Rhondda Cynon Taf
|
Lucy Lloyd - Lucy.Lloyd@rctcbc.gov.uk
Ffôn Symudol 07786 523803
|
Llyfrgell |
Oriau Agor
Diwrnod
|
Amseroedd
|
Dydd Llun
|
9:00am - 6:00pm
|
Dydd Mawrth
|
9:00am - 6:00pm
|
Dydd Mercher
|
9:00am - 1:00pm
|
Dydd Iau
|
9:00am - 6:00pm
|
Dydd Gwener
|
9:00am - 6:00pm
|
Dydd Sadwrn
|
9:00am - 1:00pm
|
Llawr gwaelod
Y Llyfrgell – yn darparu adrannau ar gyfer oedolion, oedolion ifainc a phlant;
- 2 o ystafelloedd cyfarfod cymunedol gyda sgriniau rhyngweithiol a chyfleusterau fideo-gynadledda.
- 6 o gyfrifiaduron at ddefnydd y cyhoedd
Llawr Cyntaf
- Ystafell astudiaethau lleol yn cynnwys 3 darllenydd microffilm ac ardal astudio
- Stoc o lyfrau astudiaethau lleol
- 2 o gyfrifiaduron at ddefnydd y cyhoedd
- Ystafell addysg gyda 10 cyfrifiadur
- Ardal storio archif.
|
Cyfrifiaduron i'r Cyhoedd |
Os ydych chi'n aelod o'r llyfrgell, mae modd i chi ddefnyddio cyfrifiaduron i'r cyhoedd am ddim yn unrhyw un o lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf. Mae rhagor o fanylion am sut i ymaelodi â Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf yma.
|
Gwasanaeth IBobUn y Cyngor
|
Mae'r gwasanaeth IBobUN ar y llawr gwaelod.
I wneud cais am Ostyngiad Treth y Cyngor, Budd-dal Tai, Bathodyn Glas neu Docyn Bws am Ddim, gwnewch apwyntiad gydag un o'n hymgynghorwyr yn www.rctcbc.gov.uk/ibobun
|
WiFi am ddim
|
Wifi ar gael gyda chyfrif Cloud
|
Y Gampfa
|
Mae'r llawr 1af yn gartref i stiwdio droelli (30 o feiciau) a stiwdio ar gyfer dosbarthiadau gyda chyfleusterau newid ynghyd ag ystafell newid gwbl hygyrch gyda theclyn codi symudol.
Mae gan y gampfa ar yr 2il lawr amrywiaeth o beiriannau rhedeg, peiriannau trawsymarfer, beiciau ac amrywiaeth o beiriannau ymwrthedd, yn ogystal â pheiriannau cardio wedi'u haddasu. Mae offer pwysau rhydd a pheiriannau cebl ar gael hefyd.
Mae modd cyrraedd y ddwy ardal ar lifft o'r llawr isaf a'r llawr gwaelod.
Mae modd gweld rhagor o wybodaeth am Gyfleusterau Hamdden Llys Cadwyn
ar Instagram a Facebook hefyd.
|
Toiledau
|
Mae toiledau cyhoeddus i ddynion a menywod ar gael.
I unrhyw un sydd angen defnydd hygyrch o gyfleusterau toiled a mannau newid, mae'r adeilad bellach yn cynnwys cyfleuster ‘Changing Places’ a fydd yn galluogi pobl sydd angen offer a lle ychwanegol i ddefnyddio'r toiledau yn ddiogel ac yn gyfforddus.
Gweler y wybodaeth am 'Changing Places', y mae un ohonyn nhw ar gael ar gyfer defnydd y cyhoedd ar lawr gwaelod y Ganolfan. Gweler rhestr o'r cyfleusterau 'Changing Places' sydd ar gael ledled y DU.
|
Cyfrifiaduron i'r Cyhoedd
|
Os ydych chi'n aelod o'r llyfrgell, mae modd i chi ddefnyddio cyfrifiaduron i'r cyhoedd am ddim yn unrhyw un o lyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf. Mae rhagor o fanylion am sut i ymaelodi â Llyfrgell RhCT yma.
|
Gwasanaethau
Cyngor a chymorth ar gyflogaeth
|
Mae Cymunedau am Waith a Mwy (CfW+) yn cynnig cymorth i drigolion yn RhCT sy'n gobeithio dechrau gweithio, hyfforddineu wirfoddoli a gallwch chi drefnu apwyntiad trwy e-bostio gwaithasgiliau@rctcbc.gov.uk, trwy ddefnyddio’r eicon ar Facebook neu drwy ffonio 01443 425 761
|
Addysg yn y Gymuned
|
Mae amrywiaeth o ddosbarthiadau dysgu cymunedol yn ogystal â phrosiectau celfyddydol a diwylliannol yn cael eu cynnig yn y Ganolfan. Bydd y rhain yn cael eu hysbysebu yn y Ganolfan a byddan nhw'n cael eu hyrwyddo ar y dudalen we yma'n fuan.
|
Man Talu Lleol
|
Mae modd defnyddio'r man talu yma i dalu am ystod o wasanaethau'r Cyngor, gan gynnwys biliau treth y Cyngor, trethi busnes a mwy.
|
Cyngor ar Bopeth
|
I gael cyngor neu ragor o wybodaeth am y gwasanaethau sy'n cael eu darparu, cysylltwch â:
- Llinell Gyngor (llinell dir) - 03444 77 20 20
- Llinell Weinyddu 01443 853221
|
Canolfan Cydnerthedd y Gymuned (Hwb) Llys Cadwyn
1 Llys Cadwyn,
Stryd Taf
Pontypridd
CF37 4TH