Mae'r Cyngor yn gweithio gyda phartneriaid allweddol er mwyn darparu cymorth i drigolion. Mae modd i drigolion Rhondda Cynon Taf ofyn am gymorth unrhyw bryd drwy glicio ar y ddolen isod a chwblhau'r ffurflen gais am gymorth, neu drwy ffonio 01443 425003. Bydd cymorth naill ai'n cael ei ddarparu gan staff y Cyngor, grŵp cymunedol neu bartner allweddol.
Gofyn am gymorth
Mae modd i chi ofyn am gymorth trwy drwy lenwi'r ffurflen ar-lein.
Cefnogaeth a Chymorth
Mae modd i chi ofyn am gymorth ar unrhyw bryd os dydych chi ddim yn derbyn cefnogaeth gan eich teulu, ffrindiau neu'ch cymuned.
Mae modd i'ch carfan ymateb cymunedol lleol roi cymorth gyda'r canlynol:
Bydd unigolyn o bob carfan ymateb lleol yn cysylltu â chi er mwyn rhannu gwybodaeth, cyngor a chymorth yn ymwneud â'r meysydd penodol sydd wedi'u nodi uchod.
Yn dibynnu ar eich anghenion, bydd y Cyngor yn rhannu eich manylion ag adrannau/sefydliadau mewnol ac allanol perthnasol i ddarparu unrhyw gymorth arbenigol yr ydych wedi gofyn amdano.
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut mae'r Cyngor yn prosesu a gwarchod eich gwybodaeth, darllenwch yr hysbysiad preifatrwydd. Dilynwch y ddolen isod i fwrw golwg arno: www.rctcbc.gov.uk/diogeludata.
Cychwyn Iach – Talebau Bwyd a Fitaminau
Mae 71% o deuluoedd cymwys sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf wedi hawlio'r talebau Cychwyn Iach y mae gyda nhw hawl i'w derbyn.
Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod pawb sy'n gymwys yn hawlio'r talebau, ac i gynyddu'r ganran yma.
Cliciwch ar y ddolen Cael cymorth i brynu bwyd a llaeth (Cychwyn Iach) neu'r poster isod i gael gwybod a ydych chi'n gymwys a hawlio NAWR!!!!
Os ydych chi'n sefydliad neu'n berson sy'n rhoi cymorth i deuluoedd neu unigolion beichiog, mae croeso i chi rannu'r wybodaeth a'r poster.