Sut i gael cymorth gofal cymdeithasol gennym ni
Os ydych chi'n teimlo fel bod gennych chi, neu rywun rydych chi'n nabod, anghenion gofal a chymorth, mae modd i chi gysylltu â ni am wybodaeth neu i ofyn am asesiad.
Mae'r asesiad yn cynnwys trafodaeth rhyngoch chi (neu'r person rydych chi'n gofalu amdanynt) a gweithiwr hyfforddedig o'r Cyngor. Byddwn ni'n trafod eich sefyllfa, pa ddeilliannau hoffech chi'u cyflawni a thrafod sut gallwn ni bodloni'ch anghenion.
Os ydych chi neu'r person sydd angen cymorth yn hŷn na 18 oed, mae modd i chi gysylltu â ni drwy lenwi ffurflen ymholi Gwasanaethau i Oedolion ar lein:
Neu cysylltwch â ni'n uniongyrchol am ragor o wybodaeth, cyngor a chymorth: