Skip to main content

Cronfa Gymunedol Seibiannau Byr i Gynhalwyr Di-dâl

 

Mae cyfle am gyllid wedi codi ar gyfer 2024-2025 er mwyn i sefydliadau cymunedol ddarparu cyfleoedd i gynhalwyr di-dâl gymryd seibiannau byr o'u dyletswyddau gofal.

Mae nodweddion a gwerthoedd allweddol y gronfa yn cynnwys:

Cefnogi cydbwysedd rhwng bywyd â gofalu - rhaid i bob cynhaliwr di-dâl gael y cyfle i gymryd seibiannau o'u dyletswyddau gofalu er budd eu hiechyd a'u lles eu hunain, yn ogystal â chael bywyd ar y cyd â gofalu.

Prif amcanion y gronfa yw:

  • Cynyddu argaeledd a'r gallu i gynhalwyr di-dâl gymryd seibiannau byr.
  • Darparu'r dewis i addasu'r math o seibiant yn ogystal ag amser a chynnwys/bwriad y seibiant ar gyfer y cynhaliwr di-dâl.
  • Targedu cynhalwyr di-dâl sydd â'r angen mwyaf am seibiannau.
  • Meithrin cydnerthedd a chynnal perthnasoedd gofalgar y cynhalwyr.

Mae Cronfa Gymunedol Seibiannau Byr i Gynhalwyr Di-dâl Rhondda Cynon Taf ar gael i gynhalwyr di-dâl gymryd seibiant angenrheidiol er mwyn canolbwyntio ar eu hiechyd a'u lles eu hunain.

Mae'r gronfa ar agor i Grwpiau Cymunedol sy'n gweithredu yn ardal Rhondda Cynon Taf ac sy'n gallu dangos tystiolaeth bod ganddyn nhw Gyfansoddiad neu Ddogfen Lywodraethu; a Chyfrif Banc yn enw'r sefydliad gydag o leiaf 2 lofnodwr ar wahân (sydd ddim yn perthyn i'w gilydd).

Mae modd i'r Gronfa Seibiannau Byr i Gynhalwyr Di-dâl gynorthwyo â dwy fath o weithgareddau:

  • Gweithgareddau sydd ar gyfer y cynhaliwr yn unig; gweithgareddau, achlysuron neu deithiau y mae modd i gynhalwyr di-dâl gael mynediad atyn nhw yn ystod eu seibiant byr. 
  • Gweithgareddau sydd ar gyfer y cynhaliwr di-dâl a'r person sy'n derbyn gofal; mae modd i 'seibiant byr' ar gyfer y cynhaliwr di-dâl fod ar ffurf sgwrsio â phobl eraill a newid mewn amgylchedd. 

Mae'r gronfa yma ar gyfer gweithgareddau grŵp.

Am ragor o wybodaeth mewn perthynas â chymorth unigol i gynhalwyr di-dâl, e-bostiwch: CynnalyCynhalwyr@rctcbc.gov.uk neu ffoniwch 01443 281463.

At ddibenion y gronfa yma, mae cynhaliwr (gofalwr) yn berson sy'n darparu gofal am ddim (ac eithrio Lwfans Gofalwr) ar gyfer partner, aelod o'r teulu neu ffrind sy'n methu ymdopi heb y gefnogaeth yma oherwydd ei salwch, gwendid, anabledd, problem iechyd meddwl neu ddibyniaeth. Mae modd i Gynhaliwr fod yn UNRHYW UN o UNRHYW oedran.

Mae grantiau o hyd at £2,000 ar gael. Mae'r gronfa ar gyfer cyllid Refeniw yn unig.

Mae rhai enghreifftiau o gostau yn cynnwys;

  • Costau'r seibiannau byr eu hunain, e.e. gweithgareddau, teithio, llety dros nos. Nodwch: Rhaid i unrhyw deithiau ddigwydd o fewn ffiniau Rhondda Cynon Taf.
  • Costau mynediad i atyniadau neu gyfleusterau ac ati
  • Costau staff ar gontract/parhaol, e.e. cyflogau, pensiwn, cyfraniadau Yswiriant Gwladol, costau teithio staff a chynhaliaeth. Gall hyn gynnwys staff sy'n ymwneud â darpariaeth uniongyrchol y prosiect.
  • Costau staff sesiynol, e.e. cyflogau, pensiwn a chyfraniadau Yswiriant Gwladol, costau teithio a chynhaliaeth i staff.
  • Costau gwirfoddolwyr, e.e. costau teithio.
  • Costau cludiant.
  • Offer sydd eu hangen ar gyfer darparu'r prosiect.

Bydd y gronfa yn agor ar 26 Gorffennaf 2024. Mae cyfanswm o £34,000 ar gael.

Bydd pob cais yn cael ei asesu a'r cyllid yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin hyd nes bod yr holl gyllid wedi'i ddyrannu. Mae’n bosibl y bydd galw am geisiadau pellach yn ddiweddarach yn y flwyddyn ariannol, ar yr amod bod rhagor o arian ar gael.

Mae modd lawrlwytho'r ffurflen gais isod: 

Ffurflen Gais

Rhaid anfon ffurflenni cais wedi'u cwblhau i rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk.

Mae dogfennau ategol pellach ar gael i'w lawrlwytho isod, efallai bydd y rhain yn ddefnyddiol wrth gyflawni'r prosiectau:

Cofrestr Gweithgareddau

Ffurflen Gofrestru

Holiadur Cyfranogwr

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau, e-bostiwch rhctgydangilydd@rctcbc.gov.uk neu ffonio 01443 425368.