Browser does not support script.
Sut rydyn ni'n ymateb i Covid-19 er mwyn diogelu'n staff a'n cwsmeriaid.
Pwy ydyn ni
Mae Vision Products yn fusnes sy'n cael ei gefnogi ac sy'n rhan o Gyngor Rhondda Cynon Taf. Mae'n darparu cymorth ystyrlon, hyfforddiant a chyfleoedd gwaith i bobl ag anableddau.
Beth ydyn ni'n ei wneud
Rydyn ni'n cynnig ystod amrywiol o gynnyrch a gwasanaethau i'r sector cyhoeddus a'r sector preifat, sy'n ein galluogi ni i gefnogi unigolion ag anableddau yn y gymuned ac yn ein gweithlu.
Dewch i ymweld ag un o'n siopau Symudedd, lle rydyn ni'n arbenigo mewn cymhorthion byw bob dydd a chynnyrch symudedd!
Rydyn ni'n arbenigwyr mewn gweithgynhyrchu a gosod Ffenestri a Drysau PVCu o safon yn Ne Cymru ers dros 25 blynedd.
Mae gyda ni garfan sy'n arbenigo mewn gwaith gosod a gwasanaethu ystod amrywiol o offer.
Rydyn ni'n gweithredu gwasanaeth gosod a chynnal a chadw ar gyfer gwifren achub bywyd a gwasanaethau teleofal yn Ne Cymru.
Rydyn ni'n darparu gwasanaeth dosbarthu, casglu ac adnewyddu ar gyfer ystod eang o gyfarpar yn ein cymunedau lleol.
Trwy weithio gyda ni, byddwch chi'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Byddwch chi'n gwneud hynny trwy ddarparu cyfleoedd gwaith i unigolion ag anableddau yn y gymuned leol.
Caiff ein cynnyrch a'n gwasanaethau eu cyflawni i'r safon achrededig uchaf posibl a hefyd am bris cystadleuol ar gyfer pob un o'n cwsmeriaid. Caiff hyn ei adlewyrchu gan ein henw da yn y diwydiant
Rydyn ni'n falch o fod yn fusnes sy'n derbyn cymorth ac sy'n rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.
Rydyn ni wedi treulio dros 25 o flynyddoedd yn perffeithio ein gwasanaeth, gan ddarparu gofal i gwsmeriaid wedi'i deilwra a heb ei ail ar draws y busnes.
Mae gyda ni bartneriaeth arbennig gyda Vision Products. Rydyn ni'n hoffi iawn o'i ethos sef cefnogi unigolion sydd ag anableddau yn y gymuned, gan ddarparu gwasanaeth arbennig i ni!
Richard Jenkins, Trivallis
Diolch yn fawr iawn i chi am y cyfleoedd rydych chi wedi'u darparu i'n disgyblion o ran profiad gwaith, cyfleoedd prentisiaeth ac ymweliadau.
Steven Cruickshank, Pennaeth Ysgol Maesgwyn
Cawson ni wasanaeth arbennig o'r cychwyn cyntaf. Mae hynny'n cynnwys trafodaethau â'r ymgynghorydd gwerthu a'r arolygwr proffesiynol a dreuliodd amser yn canolbwyntio ar fanylion ein gofynion.
Mrs Lloyd, Aberdâr
Roedd gweithio gyda Vision yn broses ddi-dor. Darparodd y cwmni wasanaeth o ansawdd uchel gan gyfathrebu’n glir â ni ar bob cam. Fydden ni ddim yn oedi i weithio gyda Vision eto ar brosiectau yn y dyfodol.Roedd gweithio gyda Vision yn broses ddi-dor. Darparodd y cwmni wasanaeth o ansawdd uchel gan gyfathrebu’n glir â ni ar bob cam. Fydden ni ddim yn oedi i weithio gyda Vision eto ar brosiectau yn y dyfodol.
Rob Livings, P&P Builders
Mae Vision Products yn gwmni proffesiynol, dibynadwy sydd wedi rhoi gwasanaeth o safon i Gymdeithas Tai Rhondda ers sawl blwyddyn. Rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau â'n partneriaeth waith sy'n darparu cyflogaeth, hyfforddiant a chymorth i bobl ag anableddau yn ein cymunedau.
Anthony Daley, Cymdeithas Tai Rhondda
Mae Vision bob tro yn rhoi gwasanaeth ardderchog a byddwn ni'n parhau i weithio gyda nhw i osod ffenestri newydd yn ein heiddo
Gerwyn Fear, Grŵp Cartrefi Cynon Taf
60
191.44
4,478
3629