Skip to main content

Gwella mynediad er mwyn cynnal cwlferi mewn lleoliad allweddol ger Hirwaun

Rhigos Road

Dyma hysbysiad ymlaen llaw am Gynllun Gwaith Ffyrdd Cydnerth fydd yn dechrau yn y Flwyddyn Newydd, lle bydd angen goleuadau traffig dros dro ar yr A4061, Ffordd y Rhigos, Hirwaun.

Bydd gwaith yn y lleoliad sydd i'w weld yn y llun yn cynnwys gosod mynedfa well ar gyfer cerbydau, yn ogystal â chilfach dau gwlfer a gafodd eu huwchraddio yn y blynyddoedd diwethaf. Bydd y fynedfa newydd yn caniatáu i gilfachau'r cwlferi gael eu cynnal a'u cadw yn fwy effeithlon, yn enwedig yn ystod digwyddiadau storm, er mwyn clirio unrhyw rwystrau a gwella llif y cwrs dŵr.

Mae'r Cyngor wedi penodi Peter Simmons yn gontractwr er mwyn cyflawni'r gwaith, a fydd yn dechrau ddydd Llun, 5 Ionawr (2026). Mae disgwyl i'r gwaith bara hyd at bedair wythnos.

Bydd y prif gynllun yma yn dilyn gwaith archwilio'r safle drwy greu tyllau profi, a gafodd eu cwblhau yn yr wythnos oedd yn dechrau ar 15 Rhagfyr 2025.

Bydd rhaid cau un lôn er mwyn cynnal y prif waith yn ddiogel, fydd yn cael ei reoli â goleuadau traffig dwy-ffordd.

Mae'r cynllun wedi'i hariannu drwy Gronfa Ffyrdd Cydnerth Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol.

Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid gwerth dros £6 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd yn ystod 2025/26 trwy'r Grant ar gyfer Gwaith ar Raddfa Fach, Rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol a Chronfa Ffyrdd Cydnerth. Mae cynlluniau unigol o dan y rhaglenni yma'n cael eu cyflwyno gan ddefnyddio cyllid cyfatebol gan y Cyngor, sef 10% ar gyfer gwaith Ffyrdd Cydnerth.

Diolch ymlaen llaw i drigolion a defnyddwyr y ffordd am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 22/12/2025