Skip to main content
Alert Symbol
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd MELYN ar gyfer glawr rhwng 10amd a hanner nos dydd Mercher 17 Rhagfyr a 10am a 7pm dydd Iau 18 Rhagfyr. Dyma ragor o wybodaeth ynglŷn â sut i baratoi ar gyfer llifogydd.

Rheoli coed yn ddiogel ar hyd y prif lwybrau cymudo yn y fwrdeistref sirol

Tree felling

Mae'r Cyngor wedi darparu diweddariad ynglŷn â'r gwaith sy'n mynd rhagddo i gael gwared ar goed a thorri coed ar hyd ein ffyrdd prysuraf. Mae hyn yn hanfodol i sicrhau diogelwch defnyddwyr y ffordd.

Cafodd cam cyntaf y gwaith, sy'n cael ei gynnal ar hyd yr A4059 yng Nghwm Cynon, ei gwblhau erbyn diwedd yr wythnos diwethaf (Dydd Gwener, 12 Rhagfyr).

Mae'r gwaith yn angenrheidiol er mwyn cael gwared ar unrhyw rwystrau posibl i arwyddion ffordd a goleuadau stryd, ac er mwyn sicrhau nad yw'r coed yn hongian dros y briffordd.

Mae'r gwaith hanfodol yma'n cael ei liniaru gan y Cyngor yn plannu mwy na 660 o goed ledled y Fwrdeistref Sirol bob blwyddyn.

Ym mis Hydref 2025, dechreuodd y gwaith ar yr A4059 ym Mhen-y-waun ac mae wedi symud ymlaen trwy Gwm Cynon – gan fynd tua'r de a'r holl ffordd i Aberpennar (mewn man ger yr orsaf betrol).

Yn ddiweddar mae'r gwaith wedi canolbwyntio ar y rhan olaf o'r ffordd o'r Drenewydd i'r ffordd ymuno â'r A470 yn Abercynon.

Yn y flwyddyn newydd, bydd y rhaglen yn symud ymlaen i ardal Cwm Rhondda, gan gynnwys yr A4119 o Goed-elái a'r holl ffordd hyd at Gwm Clydach, a’r A4233 ffordd osgoi Trebanog.

Yn dilyn hyn, bydd gwaith yn ardal Taf-elái – y B4595 Heol Llanilltud (Prifysgol De Cymru Trefforest i Don-teg), ffordd osgoi Pentre'r Eglwys (Cross Inn i Matalan) a Ffordd Llantrisant yn ardal Beddau.

Mae disgwyl y bydd y rhaglen gyfan o waith wedi'i chwblhau erbyn Gwanwyn 2026.

Bydd angen rhywfaint o fesurau rheoli traffig ar gyfer y gwaith yma sy'n mynd rhagddo er mwyn sicrhau diogelwch gweithwyr a defnyddwyr y ffyrdd. Bydd yr holl waith yn cael ei drefnu y tu allan i'r oriau brig.

Diolch i holl ddefnyddwyr y ffordd am eich amynedd a'ch cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 16/12/2025