Bydd modd i drigolion gael rhagor o wybodaeth mewn perthynas â chynlluniau cychwynnol ar gyfer llwybr cerdded a beicio newydd yn ardal Treherbert, trwy gymryd rhan mewn ymgynghoriad cyhoeddus yr wythnos nesaf (17 Mehefin i 1 Gorffennaf). Mae'r cynllun yma’n un rhan o lwybr teithio llesol ehangach, sy'n cael ei ddatblygu ar gyfer Treherbert a Threorci.
Mae'r Cyngor wedi sicrhau cyllid pwysig i ddatblygu'r llwybr newydd yn rhan o Gronfa Teithio Llesol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26. Mae Cam Un yn mynd trwy'r cam dylunio cychwynnol ar hyn o bryd. Mae cynnig iddo gael ei leoli rhwng Gorsaf Rheilffordd Treherbert ac Ysgol Gynradd Penyrenglyn.
Mae gwahoddiad i drigolion ddysgu rhagor a lleisio'u barn mewn perthynas â chynigion Cam Un o ddydd Mawrth, 17 Mehefin i ddydd Mawrth 1 Gorffennaf. Bydd tudalen benodedig ar gael ar ein Gwefan Ymgynghoriadau o 17 Mehefin.
Byddai llwybr arfaethedig Cam Un ochr yn ochr â'r llinell rheilffordd bresennol, gan ddarparu cyswllt newydd i'r gymuned i gyrraedd Ysgol Gynradd Penyrenglyn. Bydd y buddsoddiad yn ceisio gwella cysylltedd lleol, gan gynnwys cysylltu â'r orsaf rheilffordd - trwy ddefnyddio cyswllt newydd oddi ar y ffordd sy'n ddiogel a deniadol.
Bydd y dudalen ymgynghori ar y we yn cynnwys cyfres o ddogfennau a deunyddiau ategol yn amlinellu cynigion Cam Un - gan gynnwys darluniadau'r llwybr newydd. Mae modd i drigolion leisio'u barn hyd at, ac yn cynnwys 1 Gorffennaf, drwy e-bostio: YmgynghoriadTeithioLlesol@rctcbc.gov.uk neu anfon llythyr at: Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS, Ymchwil ac Ymgynghori, 2 Llys Cadwyn, Stryd y Taf, Pontypridd, CF37 4TH.
Yn rhan o'r ymgynghoriad, bydd arddangosfa gyhoeddus yn cael ei gynnal yn yr Hen Lyfrgell, Stryd Bute, Treherbert (1pm-7pm, dydd Mawrth, 17 Mehefin).
Mae croeso i bawb i'r achlysur yma, er mwyn bwrw golwg ar ddeunyddiau'r ymgynghoriad wyneb yn wyneb, ac i ofyn cwestiynau i garfan y prosiect. Does dim angen cadw lle ymlaen llaw, ac mae modd i drigolion alw-heibio unrhyw bryd rhwng 1pm a 7pm.
Bydd yr holl adborth sy'n cael ei dderbyn yn ystod yr ymgynghoriad yn cael ei ystyried wrth i swyddogion siapio dyluniad Cam Un. Mae disgwyl i waith dylunio manwl y llwybr cerdded a beicio newydd trwy ardal Treherbert gael ei ddarparu erbyn gwanwyn 2026.
Mae Cam Dau a Cham Tri Llwybr Teithio Llesol Treherbert i Dreorci yn y cam datblygu a byddai modd iddyn nhw gyrraedd y cam ymgynghori erbyn 2025/26, yn amodol ar gyllid.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rydyn ni'n parhau i groesawu cymorth cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn darparu llwybrau teithio llesol newydd yn ein cymunedau. Mae buddsoddi yn y maes yma yn flaenoriaeth ar y cyd, er mwyn annog rhagor o bobl i gerdded neu feicio rhagor o'u teithiau bob dydd - sy'n gwella iechyd a lles, yn lleihau nifer y ceir sydd ar ein ffyrdd, yn lleihau tagfeydd traffig, ac yn diogelu'r amgylchedd o'n cwmpas ni.
"Mae ein dyraniad gwerth mwy na £6 miliwn o Gronfa Teithio Llesol 2025/26 wedi'i glustnodi er mwyn datblygu dau lwybr newydd - rhwng Tonysguboriau a Llanharan, a rhwng Treherbert a Threorci. Mae hefyd wedi darparu cyllid llawn er mwyn darparu Cam Pump Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach rhwng Glynrhedynog a Tylorstown - prif ran olaf y llwybr sylweddol 10 cilometr o hyd yma ar gyfer beicwyr a cherddwyr. Bydd gwaith adeiladu Cam Pump yn dechrau yn yr wythnosau nesaf, gyda llwybr Cam Pedwar yn ardal Glynrhedynog bron wedi'i orffen.
"Bydd y Cyngor yn ymgynghori â thrigolion mewn perthynas â'r cynlluniau newydd, gyda'r elfen gyntaf yn cael ei hadeiladu yn ardal Treherbert. Bydd camau gwaith pellach yna'n ymestyn y llwybr, gan gysylltu â Threorci, yn amodol ar gyllid. Bydden i'n annog trigolion sydd â diddordeb i ddysgu rhagor a lleisio'u barn rhwng 17 Mehefin a 1 Gorffennaf, er mwyn helpu carfan y prosiect i goethi'r cynlluniau. Mae croeso i bawb fynychu'r achlysur lleol sy'n cael ei gynnal yn rhan o'r ymgynghoriad yma yn yr Hen Lyfrgell, Stryd Bute, rhwng 1pm a 7pm ar 17 Mehefin."
Wedi ei bostio ar 10/06/2025