Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi cyhoeddi’r Datganiad o Bleidiau/Unigolion sydd wedi'u henwebu ar gyfer etholaeth Pontypridd Cynon Merthyr yn rhan o Etholiad y Senedd, a fydd yn cael ei gynnal ddydd Iau, 7 Mai.
Daeth y cyfnod enwebu i ben ddoe, ac erbyn hyn mae modd i chi fwrw golwg ar y Datganiad o Bleidiau/Unigolion sydd wedi'u henwebu ar wefan y Cyngor.
Mae tair etholaeth arall yn cynnwys rhannau o ardal ehangach y Fwrdeistref Sirol yn Etholiad y Senedd. Cyngor Castell-nedd Port Talbot fydd yn gweinyddu'r etholiad ar gyfer etholaeth newydd Afon Ogwr Rhondda, a Chyngor Caerdydd sy'n gyfrifol am etholaeth Caerdydd Ffynnon Taf a Chaerdydd Penarth.
Bydd y Datganiad o Bleidiau/Unigolion sydd wedi’u henwebu ar gyfer yr etholaethau yma'n cael ei gyhoeddi ar wefannau'r Cynghorau priodol maes o law.
Bwriwch olwg ar ein tudalen gartref bwrpasol i bob pleidleisiwr yn Rhondda Cynon Taf, sy'n egluro'r newidiadau sydd wedi'u cyflwyno ar gyfer Etholiad y Senedd 2026, mae hyn yn cynnwys map o ardal y Fwrdeistref Sirol sy'n dangos ffiniau'r pedair etholaeth.
Wedi ei bostio ar 10/04/2026