Bydd rhieni a chynhalwyr plant mewn ysgolion uwchradd ledled Rhondda Cynon Taf bellach yn gallu talu am brydau ysgol yn gyflymach ac yn fwy cyfleus wrth i ni gyflwyno'r system talu ar-lein newydd, 'iPayimpact'. Mae modd i deuluoedd wirio balansau, ychwanegu arian cinio a gweld cofnod o'r prydau bwyd sydd wedi'u prynu ar unrhyw adeg ar ap a gwefan iPayimpact.
Mae balansau'n diweddaru bron ar unwaith, ac mae’n hawdd sefydlu rhybuddion balans isel er mwyn sicrhau bod cyfrifon mewn credyd. Mae hyn yn rhoi’r hyblygrwydd i deuluoedd reoli cyfrifon mewn ffordd sy'n addas iddyn nhw.
Mae'r system eisoes wedi’i threialu’n llwyddiannus yn Ysgol Gyfun Rhydywaun a bydd yn cael ei chyflwyno i bob ysgol uwchradd dros y misoedd nesaf.
Manteision y system newydd:
- Gwirio balans ar unwaith drwy'r ap neu'r wefan
- Ffordd gyflym a diogel o ychwanegu arian ar gyfer prydau ysgol
- Hanes llawn o'r prydau bwyd sydd wedi'u prynu ar gael
- Rhybuddion balans isel er mwyn helpu rhieni a chynhalwyr i gadw ar ben taliadau
- Cymorth i ddisgyblion sy'n derbyn Prydau Ysgol Am Ddim - bydd modd i deuluoedd weld cofnod o'r bwyd sydd wedi'i brynu yn ogystal ag ychwanegu arian ar gyfer eitemau ychwanegol
Mae'r system yn cynnwys nodweddion defnyddiol megis opsiynau ailosod cyfrinair, cymorth wrth greu cyfrifon a chanllawiau clir ar gyfer datrys problemau cyffredin o ran mewngofnodi.
Pan fydd y system newydd yn barod i'w chyflwyno ym mhob ysgol, bydd rhieni a chynhalwyr yn derbyn llythyr yn uniongyrchol gan yr ysgol gyda manylion mewngofnodi a gwybodaeth gynhwysfawr ynghylch sut i ddefnyddio’r ap. Yn y cyfamser, bydd y system bresennol ar gyfer taliadau yn cael ei defnyddio. Fydd dim newid i'r ffordd mae disgyblion yn prynu prydau bwyd yn yr ysgol a bydd pob balans yn trosglwyddo i'r system newydd yn awtomatig.
Meddai'r Dr Marium Haque, Cyfarwyddwr Addysg a Cynhwysiant:
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i sicrhau bod gwasanaethau ysgolion yn hygyrch ac yn hawdd eu defnyddio i deuluoedd ledled Rhondda Cynon Taf. Mae’r system 'iPayimpact' yn rhoi mwy o reolaeth a thryloywder i rieni dros daliadau prydau ysgol, gan eu helpu i gadw llygad a rheoli balansau yn rhwydd. Dyma gam cadarnhaol arall i foderneiddio systemau ysgolion Rhondda Cynon Taf a chefnogi teuluoedd gyda’u trefnau beunyddiol.
Wedi ei bostio ar 09/04/2026