Mae cyfres o sesiynau gwybodaeth wedi cael eu trefnu gan Gyngor Rhondda Cynon Taf a'i bartneriaid i gefnogi'r rhai y mae'r newyddion diweddar ac annisgwyl am gau canolfan ddosbarthu The London Mint Office Ltd yn Nhrewiliam wedi effeithio arnyn nhw.
Bydd y sesiynau'n rhoi cyfle iddyn nhw gael ystod o wasanaethau cymorth, gwybodaeth a chyngor.
Bydd cyfleoedd hefyd i bobl drefnu cymorth un-i-un parhaus, sgiliau cyfweliad, gweithdai CV, cymorth gyda cheisiadau am swydd a chyrsiau hyfforddi gyda charfan Gwaith a Sgiliau ymroddedig y Cyngor.
Mae partneriaid allweddol, gan gynnwys y Ganolfan Byd Gwaith, Cyngor ar Bopeth a Gyrfa Cymru hefyd yn barod i fynychu'r sesiynau er mwyn sicrhau bod cymaint o gymorth â phosibl ar gael.
Mae'r newyddion annisgwyl am gau The London Mint Office Ltd wedi effeithio ar tua 160 o bobl, ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw'n byw yn ardaloedd Cymoedd y Rhondda a Thaf-elái.
Meddai'r Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden: “Rydyn ni'n cydymdeimlo â phawb sydd wedi'u heffeithio gan hyn. Cyfnod pryderus a gofidus iawn yw ef iddyn nhw.
“A ninnau'n Gyngor, rydyn ni am gynnig cymaint o gymorth â phosibl iddyn nhw. Mae ein Carfan Gwaith a Sgiliau wedi trefnu cyfres o sesiynau i roi cymorth amlasiantaeth ymarferol a phwysig cyn gynted â phosibl i'r rhai wedi'u heffeithio.
“Rydyn ni'n diolch i’n garfan, a’r asiantaethau partner, am ymateb i anghenion trigolion heb oedi, ac rydyn ni eisiau annog pobl i fanteisio ar y sesiynau yma a'r cymorth sydd ar gael.
“Mae’n bwysig cofio bod y Garfan Gwaith a Sgiliau wrth law hyd yn oed os nad oes modd ichi fynd i’r sesiynau yma.”
Dyma'r trefniadau ar gyfer y sesiynau
|
Sesiynau Cymorth - Dileu Swydd
|
|
Dydd Llun 17 Awst
|
Llyfrgell Treorci - 10am-12pm
|
|
Dydd Mawrth 18 Awst
|
Plaza'r Porth - 1pm-3pm
|
|
Dydd Mercher 19 Awst
|
Llyfrgell Llantrisant - 10am-12pm
Llyrfegell Tonypandy 1pm-3pm
|
Am ragor o wybodaeth neu gymorth gan staff y Garfan Gwaith a Sgiliau, cysylltwch â nhw yma:
Cofiwch fod y Garfan Gwaith a Sgiliau wrth law i holl drigolion RhCT 16 oed a hŷn sydd angen help i ddod o hyd i swydd, paratoi ar gyfer swydd neu sy'n edrych i ddatblygu eu sgiliau neu brofiad trwy wirfoddoli neu hyfforddiant. Mae ystod eang o gyrsiau am ddim ar gael, o sgiliau digidol a gweithdai CV i gymorth cyntaf, harddwch a manwerthu.
Rhagor o wybodaeth ar gael yma
Wedi ei bostio ar 07/08/2026